I ychwanegu rhagor o grwpiau ar y rhestr uchod, crëwch gyfrif (y botwm Ymuno ar dop y sgrîn) a nodwch fanylion yn y sylwadau, fel hyn!
gan
Ohebydd Golwg360
Mewn cyfnod o ansicrwydd a newid, mae grwpiau o bobol mewn sawl cymdogaeth wedi creu cynlluniau lleol i helpu’r rhai mewn angen.
Syniad y cynlluniau cyfaill yw creu tîm o wirfoddolwyr fydd ar gael i hôl negeseuon (bwyd, presgripsiwn a nwyddau hanfodol) ar ran pobol sy’n sownd yn eu cartrefi’n hunanynysu.
Mae’n un o’r enghreifftiau gorau o gymdogaethau ar lefel pentref, tref neu blwyf yn ymateb yn gadarnhaol mewn sefyllfa o angen.
Rhannwch y rhestr a’r wybodaeth â phobl yn eich bro, yn enwedig rhai sydd ddim ar Facebook.
A chofiwch ychwanegu manylion unrhyw gynlluniau eraill yn y sylwadau isod.
Os ydych chi, neu rywun yn eich bro, eisiau cymorth y Cyngor dylech gysylltu â’ch Cynghorydd Sir neu swyddfa’r Cyngor Sir ar 01545 570881.
I ychwanegu rhagor o grwpiau ar y rhestr uchod, crëwch gyfrif (y botwm Ymuno ar dop y sgrîn) a nodwch fanylion yn y sylwadau, fel hyn!