Cylch Meithrin Llangwyryfon yn dathlu 40 mlynedd

Taith gerdded noddedig i ddathlu Cylch Meithrin Llangwyryfon yn agor ym 1980

Bethan Llŷr Jenkins
gan Bethan Llŷr Jenkins

Mae Cylch Meithrin Llangwyryfon yn dathlu troi’n 40 eleni! Gan nad oedd y dathliadau a gynlluniwyd yn gallu mynd ymlaen oherwydd y sefyllfa amlwg eleni, bu angen i ni gynllunio trefniadau amgen.

Ar hyn o bryd, mae pob plentyn sy’n mynychu’r Cylch a’r staff yn cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig, gyda’r nod y bydd pob plentyn yn cerdded 40 milltir mewn 40 diwrnod. Mae’r staff yn anelu’n uwch! Bydd ein taith yn gorffen ar Dachwedd y 1af.

Os byddech mor garedig â’n noddi ni, gallwch wneud hynny trwy ein tudalen Givey, neu drwy gysylltu ag aelod o’r staff. Diolch yn fawr!