Wrth i nifer o fusnesau wynebu cyfnod heriol oherwydd y coronafeirws mae cwmni o Geredigion sy’n arbenigo mewn crisialau Cymreig wedi gweld twf mewn gwerthiant ers i bawb orfod addasu eu ffordd o fyw.
Dros yr wythnosau diwethaf mae Brogen Doyle, sydd yn rhedeg cwmni Wishing Well Crystals wedi bod yn brysur yn prosesu’r archebion ar-lein ac yn anfon crisialau i bobol o bob cwr o’r byd.
Mae’r cwmni sydd wedi ei leoli yn y Borth yn arbenigo mewn crisialau o Gymru sydd yn ôl Brogen Doyle yn cynnig nerth i’w chwsmeriaid.
“Mae’r crisialau yn ffordd i bobol anfon cymorth a chariad at eu hanwyliaid yn ystod y cyfnod heriol hwn.
“Mae iechyd meddwl a lles mor bwysig ar hyn o bryd, ac mae rhannu anrhegion sy’n golygu rhywbeth a rhannu egni positif yn helpu pobol i deimlo’n hapus a phwyllog.”
“Dydw i ddim wedi bod yn gwthio’r nwyddau, byddai hynny’n anghywir, ond mae’r gwerthiant wedi dyblu yn ystod y cyfnod yma ac mae’n parhau i gynyddu.”
“Mae’r nodiadau a’r llythyron rwy’n derbyn i gyd fynd gyda’r anrhegion yn rhoi gymaint o obaith i mi, mae pobol mor garedig mewn cyfnod fel hyn.”
Cefndir Brogen Doyle a’r cwmni
Magwyd Brogen Doyle yn y Borth ac mae wedi bod yn casglu crisialau ers yn blentyn.
Pan yn ei harddegau roedd y crisialau gafodd hi gan ei mam yn gysur mawr iddi wrth deithio o amgylch y byd, ac yn lleddfu’r hiraeth am adref.
Heddiw, mae’n defnyddio’r crisialau i gael eglurder ac i ganfod positifrwydd yn ei bywyd bob dydd.
Sefydlwyd Wishing Well Crystals gan Brogen Doyle yn 2018, ac mae’n rhedeg y cwmni o’i chartref yn y Borth.
Y cyswllt â Chymru a byd natur
Mae cwmni Wishing Well Crystals yn falch o’i leoliad ger y môr ym Mae Ceredigion, ac mae Brogen Doyle yn awyddus i rannu ei chariad at Gymru a threftadaeth Gymreig gyda’i chwsmeriaid.
“Dwi’n ffodus iawn i fyw ar yr arfordir ac rwy’n glanhau pob un o’r crisialau yn nŵr y môr er mwyn cysylltu’r cwsmer gyda Chymru a byd natur.
“Mae’r ddefod hon yn bwysig iawn i fi.”
“Wrth i bobol ddarganfod ffyrdd newydd o gysylltu, mae Wishing Well yn falch o allu rhoi egni positif a dymuniadau da i gymaint o bobol mewn cyfnod pan mae angen hynny yn fwy nag erioed.”