Mae’r cyn-wleidydd, darlithydd a chenedlaetholwr Edward Millward, neu Tedi Millward fel yr oedd yn cael ei adnabod, wedi marw yn 89 oed.
Astudiodd yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd ac yng Ngholeg Prifysgol De Cymru cyn mynd ymlaen i gael swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n diwtor Cymraeg i’r Tywysog Charles dros gyfnod o naw wythnos cyn yr Arwisgo yn 1969. Cafodd ei bortreadu gan yr actor Mark Lewis Jones mewn pennod o’r gyfres The Crown ar Netflix y llynedd.
Roedd yn aelod brwd o Blaid Cymru, gan sefyll dros y blaid yn Sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1966, ac yna fel yr ymgeisydd yn Sir Drefaldwyn yn 1970. Cafodd ei ethol yn ddirprwy-lywydd Plaid Cymru yn 1966.
Tedi Millward, ynghyd a’r hanesydd John Davies oedd yn gyfrifol am sefydlu Cymdeithas yr Iaith yn 1962 a bu’n cefnogi ymgyrch Gwynfor Evans dros gael sianel Gymraeg yn ystod yr 1980au cynnar.
Roedd yn briod â Sylvia Hart, gan fagu dau o blant, y gantores ac actores Llio Millward, a’r awdur Andras Millward, fu farw ym mis Hydref 2016.
Dywedodd ei ferch, Llio Millward:
“Roedd dad yn berson diymhongar tu hwnt a rhaid oedd i mi ei nagio yn ofnadwy i ysgrifennu ei hunangofiant, Taith Rhyw Gymro.
“Ond gallwch weld o’i darllen ei fod, fel dywedodd Jamie Bevan, cyn-arweinydd Cymdeithas yr Iaith, yn y rhagair, wir yn ‘un o gewri tawel ein hiaith a’n diwylliant’.”
Cafodd ei hunangofiant, Taith Rhyw Gymro ei chyhoeddi gan Gwasg Gomer yn 2015.
“Bonheddig”
Bu Derec Llwyd Morgan yn gweithio gyda Tedi Millward ac wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei fod yn ddyn “bonheddig a gwaraidd”.
“Er yn ddyn cyhoeddus, un mwyn anymwthgar oedd Tedi, bonheddig, gwaraidd, hardd ei wedd, a hoffai stori cystal â neb. Fel ei gydweithiwr Bobi Jones, un o Gymry di-Gymraeg Caerdydd ydoedd, un o ddisgyblion yr athro athrylithgar Elvet Thomas, un a feistrolodd yr iaith ac a garodd ei Phethe i’r fath raddau fel y daeth megis yn un o flaenoriaid y genedl.
“Cafodd gryn gyhoeddusrwydd y llynedd pan ffilmodd Netflix hanes y Tywysog Siarl yn cael tiwtorials gan Tedi yn yr Hen Goleg. Do, bu’n dysgu Charles; ond ni soniodd air amdano drwy’r blynyddoedd yr adnabûm i ef.”
Darllenwch y deyrnged lawn gan Derec Llwyd Morgan ar golwg360
Teyrngedau i Tedi Millward
Teyrngedau gan y sefydliadau oedd yn golygu cymaint iddo, gan wleidyddion, actorion a’r bobol oedd yn ei adnabod orau.
Trist yw clywed am farwolaeth y cawr o Gymro, Tedi Millward. Gwr angerddol a roddodd oes o wasanaeth i Gymru ac i'r Gymraeg. Bu'n aelod annatod o deulu Plaid Cymru ers degawdau a heno fe anfonwn ninnau ein holl gydymdeimladau at ei deulu.https://t.co/pG6C4DsrqG
— Plaid Cymru (@Plaid_Cymru) April 27, 2020
Cydymdeimlwn â theulu'r Dr Tedi Millward, un o sylfaenwyr y Gymdeithas oedd ar flaen y gad ar Bont Trefechan yn 1963. Llwyddodd i droi pryder cyffredinol am yr iaith ar ddechrau'r chwedegau yn weithredu pwrpasol, dewr. Mae pawb ohonon ni heddiw yn sefyll ar ei ysgwyddau. pic.twitter.com/g2bEb8WISm
— Cymdeithas yr Iaith (@Cymdeithas) April 27, 2020
Pob cydymdeimlad â theulu Tedi Millward
Atgofion ohono’n diwtor personol yn yr adran Gymraeg – annwyl, amyneddgar, meddylgar@Prifysgol_AberBBC Cymru Fyw – Y gwleidydd ac academydd Tedi Millward wedi marw yn 89 oed https://t.co/GMuHJK3M9v
— Liz Saville Roberts AS/MP ??????? (@LSRPlaid) April 27, 2020
Cyfraniad oes hir i’w iaith ac i’w wlad.
Ef oedd ymgeisydd seneddol @Plaid_Cymru yng Ngheredigion yn 1966, blwyddyn fy ngeni.
Ar ysgwyddau Tedi a nifer eraill mae cymaint ohonom yn sefyll heddiw ac i’r dyfodol.
Diolch Tedi Millward. https://t.co/EcNpaO0kQJ— Elin Jones (@ElinCeredigion) April 27, 2020
Braint llwyr cael chwarae’r cawr yma ac i gwrdd a fo. Colled anferth. Diolch Tedi. ❤️??????? pic.twitter.com/J91TtGJenc
— Mark Lewis Jones (@marklewisjones) April 27, 2020
I too had the privilege to tell a part of the Tedi Millward story. We barely touched the surface. A great man who made a great contribution to a wonderful country. RIP Tedi Millward ❤️??????? https://t.co/QRkf6EsFfA
— Josh O'Connor (@JoshOConnor15) April 27, 2020
Tedi Millward adeg rali cofio hanner canrif ers protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth (2/2/2013). Dyn diymhongar, egwyddorol, y bydd colled ar ei ôl. Pob cydymdeimlad á'i deulu. pic.twitter.com/Hd1r4NvyRx
— traedmawr (@Traedmawr) April 27, 2020
Tedi Millward a John Davies ar Bont Trefechan 2 Chwefror 2013, hanner canrif ymlaen / Tedi Millward and John Davies on Trefechan Bridge 2 February 2013 half a century on . #CymdeithasyrIaith #WelshLanguageSociety #lluniaurdydd2013 #photosoftheday2013. Cwsg mewn hedd Tedi RIP pic.twitter.com/ccs3uVZMHQ
— AmeliaAdre/Home??????? ?6329Ben?? (@AmeliaAber) April 27, 2020
Trist iawn clywed am farwolaeth Tedi Millward. Roedd yn ysgolhaig disglair, yn genedlaetholwr di-ildio ac yn ŵr bonheddig o’r iawn ryw. https://t.co/CbTajw5cGh
— Gwerfyl Pierce Jones (@gwerfylpj) April 27, 2020
Newydd glywed am farw Tedi Millward: coffa da am yr arwr tawel a'r Cymro gloyw hwn. Gorffwysed mewn hedd.
— Meg Elis (@megsgwennu) April 27, 2020
Newyddion trist heddiw fod Tedi Millward wedi’n gadael. Gesh i’r fraint o’i gyfarfod nôl yn 2018. Mi oedd fy mam-gu a fynta yn ffrindia mawr. Amhosib mesur ei gyfraniad i Gymru a’r iaith Gymraeg. Cofion annwyl at y teulu. @TheCrownNetflix @marklewisjones @niaroberts72 pic.twitter.com/dCcFofGXKm
— angharad elen (@blaiddi) April 27, 2020
Coffa da am Tedi Millward, academydd disglair, gwladgar enfawr ei gyfraniad a chyfaill da i’r Llyfrgell Genedlaethol.
— Pedr ap Llwyd (@yrynadllwyd) April 27, 2020