Cofio Dr Richard Edwards – “dyn diffuant, Cymro da”

Teyrneg i Dr Richard Edwards, Aberystwyth gan Gadeirydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a Ras yr Iaith

Siôn Jobbins
gan Siôn Jobbins

Dr Richard Edwards, Ras yr Iaith, 2018

Bydd gan nifer fawr o bobl Aberystwyth, a thu hwnt, atgofion da o Dr Richard Edwards a fu farw nos Lun 30 Mawrth. Trwy ei weithgaredd, brogarwch a gwladgarwch y des i i adnabod Richard, a hynny wrth i mi drefnu Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a Ras yr Iaith.

Daeth Richard, yn llythrennol i sefyll yn y bwlch yn achos Ras yr Iaith. Ras relay, di-gystadleuaeth yw Ras yr Iaith i godi arian i’r iaith Gymraeg. Wrth gwrs, mae logistics trefnu hwn yn fawr, ac un o fy mhryderon mwyaf oedd cael meddyg gyda ni. Gofynnais a fyddai Richard yn barod i wneud y Ras gyntaf yn 2014 – diwrnod cyfan yn rhedeg mewn 9 tref yng Ngheredigion. Er mawr rhyddhad i mi, cytunodd Richard!

Roedd rhyddhad a’r llawenydd fod rhywun o calibre ac enw da Richard yn barod i eistedd yn y fan trwy gydol y dydd i gadw llygad craff arnom yn fawr iawn. Er mawr syndod i mi wnaeth e gytuno i wneud eto adeg Ras yr Iaith 2016 pan oeddem ni’n rhedeg dros 3 diwrnod ac mewn 11 tref ar draws Cymru ac eto yn 2018 dros dridiau yn y de a’r gogledd.

Gallai Richard fod wedi gwneud sawl peth arall gyda’i amser a’i ddawn feddygol, ond roedd y ffaith ei fod wedi cytuno i eistedd yn y fan am dridiau i helpu yn dweud lot amdano fel dyn a Chymro.

Dwi’n gwybod bod Mentrau Iaith Cymru, prif drefnwyr y Ras bellach, yn falch iawn iawn o’i bresenoldeb, ond gallaf ddweud â sicr bod ‘bois y fan’ – Dic ‘Rhedwr’ Evans, Andrew Edwards (Caradog Rd, nawr Cemaes), Don James, Gwilym Jones ac Owain Jones, yr un mor falch hefyd.

Roedd ’na lot o hwyl gyda ‘bois y fan’ yn enwedig pan oedd Dewi Pws yno gyda nhw – ac roedd gweld gwên siriol Richard yn golygu llawer i mi. Os oedd “y Doc” yn hapus (chwedl Andrew Edwards) roeddem ni’n hapus!

Gyda’r Parêd daeth Richard eto i gadw trefn, y tro yma fel Trysorydd. Unwaith eto, daeth i sefyll yn y bwlch. Mae delio gydag arian a chyllideb yn codi cryd arna’ i. Ond dyna lle’r oedd Richard, yn cŵl, di-ffws a threfnus, yn sicrhau bod popeth mewn trefn.

Doedd dim byd ‘fi fawr’ am Richard Edwards.

Byddai’n cadw cownt ariannol ond hefyd yn gyrru i Seren Signs ym Mhenrhyn-coch yn ei gar hyfryd gyda seins mawr melyn metal yn y bŵt. Roedd yn barod iawn i godi’r seins hefyd, gyda fi, ac Owain fy mab, yn rhoi help llaw. Eleni, am y tro cyntaf, roedd Richard yn rhy sâl i fod yn rhan o’r trefnu a’r diwrnod ei hun. A dyna pryd sylweddolais i gymaint o bethau bychan eraill roedd Richard yn ei wneud – yr holl bethau bychain oedd ‘as if by magic’ yn digwydd ar y dydd.

Roedd Richard yn ddyn oedd yn llythrennol yn gallu achub bywydau pobl yn ei yrfa – a hyd yn oed yn ei amser sbâr! A dyna lle’r oedd e, hefyd yn barod i roi help llaw i mi gyda fy syniadau gwirion.

Roeddwn i mor ‘chuffed’ bod rhywun o calibre Richard yn rhoi o’i amser i mi.

Ac eto, nid helpu fi oedd e ond rhoi rhywbeth nôl i’r iaith a’r genedl roedd yn ei garu ac i’r fro a Cheredigion yr oedd mor hoff ohoni ac mor wybodus ohono.

Bydd gan bobl eraill atgofion eraill melys iawn o Richard – gwn bod sawl yn diolch iddo am achub bywyd neu wella iechyd. Roedd yn cario presgripsiwn arno wrth fynd i’r siop, rhag ofn y byddai’n sylwi wrth siarad efo person bod angen meddyginiaethau arnynt!

Ac roedd yn aelod o deulu gweithgar iawn yn y fro – yn ŵr i Dana, tad Dafydd a Fflur ac roedd wrth ei fodd yn bod yn Daid i’w wyrion newydd, Gruff a Briall.

Roedd yn weithgar mewn gwahanol fathau o ‘Aberystwyths’ – hoffwn glywed eich hanesion, felly mae croeso i bawb rannu eich atgofion melys chi ohono yn y sylwadau isod.

I mi, roedd yn ddyn da, dyn diffuant, Cymro da, a dyn oedd yn caru eu deulu. Mae coffa da amdano a bwlch mawr ar ei ôl.

Dr Richard Edwards, Ras yr Iaith, 2018
Dr Richard Edwards, 2017
Richard yn helpu rhoi baner y Parêd, 2017
Richard ac Owain Jobbins, 2015

1 sylw

Rhiannon Salisbury
Rhiannon Salisbury

Newyddion trist iawn. Roedd Richard yn ddyn hynaws dros ben. Bydd colled ar ei ôl mewn sawl cylch yng nghymuned Aberystwyth. Mae ein cydymdeimlad yn fawr â Dana, Dafydd a Fflur a’r teulu oll. Rhiannon, Eurig a Llew Salisbury.

Mae’r sylwadau wedi cau.