Clwb pêl-droed Bow Street yn ymdopi yn sgil cyfyngiadau Covid-19

“Mae ganddo ni gyfleusterau gwych yma yn Bow Street”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae rhai clybiau pêl-droed lleol yng Nghymru wedi galw ar Mark Drakeford i lacio’r cyfyngiadau caeth, sydd yn eu hatal rhag chwarae gemau cystadleuol.

Ganol mis Gorffennaf, cafodd timau pêl-droed lleol Cymru ganiatâd i ailgychwyn eu sesiynau hyfforddi.

Ers hynny, mae nifer o glybiau o dan haen un yn dadlau nad oes unrhyw gamau gwirioneddol wedi eu cymryd i ddatblygu’r sefyllfa.

At hynny, mae’n debyg bod diffyg deialog rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r clybiau wedi arwain at aflonyddwch, gyda rhai yn cwestiynu a fydd modd ailgychwyn y gynghrair y tymor hwn o gwbl.

Mewn dogfen ar eu gwefan, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi amlinellu hawl clybiau pêl-droed i chwarae gemau cyfeillgar gydag aelodau o’u clybiau eu hunain yn unig o ddydd Llun (Hydref 5).

Mae bwriad i ehangu ar y canllawiau hyn ac i alluogi timau o fewn yr un gynghrair neu awdurdod lleol i chwarae gemau cyfeillgar o ganol y mis (Hydref 19).

Mae’r datblygiad hwn yn seiliedig ar yr amod fod Llywodraeth Cymru yn diddymu’r uchafswm o 30 person yn unig yn yr awyr agored.

Yn dilyn y cynnydd diweddar mewn achosion o’r coronafeirws yng Nghrymu, mae rhai yn cwestiynu pa mor debygol yw hi y bydd y prif weinidog yn llacio unrhyw gyfyngiadau dros yr wythnosau nesaf.

Yn ôl Amlyn Ifans, hyfforddwr Clwb Pêl-droed Bow Street:

“Does dim pwynt cuddiad y ffaith mae’n bosib na fydd modd i ni chwarae eleni o gwbl ac mae hynny yn rhywbeth sy’n rhwystredig, yn enwedig i’r bechgyn ifanc sydd eisiau chwarae.”

Profiadau clybiau Aberystwyth

Er rhai gofidion, mae’n ymddangos bod clwb pêl-droed Bow Street yn ymdopi’n dda yn sgil y cyfyngiadau, a hynny, medd Amlyn Ifans, ar sail cyfleusterau’r clwb. Dywed:

“Mi yde ni’n ffodus iawn, mae gennym ni gyfleusterau gwych yma yn Bow Street, yn enwedig am glwb pentref, felly does dim byd ar stop o ran hynny.”

“Mae’n rhaid i ni edrych ar yr ochr bositif, ond does gan rai clybiau ddim cyfleusterau ymarfer ac felly mae hynny’n eu rhoi mewn sefyllfa llawer anoddach.”

Mae’n ymddangos nad clybiau bychain y dref yn unig sydd yn dioddef.

Yn wir, mewn datganiad ar wefan Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn ddiweddar, rhybuddiodd y Cadeirydd Donald Kane heb gymorth ariannol ar frys gan Lywodraeth Cymru na fydd modd i rai o glybiau Uwch Gynghrair Cymru allu sicrhau eu dyfodol hyd at y Nadolig, heb sôn am ddiwedd y tymor.

Rhybuddia Amlyn Ifans y bydd hynny’n cael effaith negyddol ar glybiau fel Bow Street sydd yn is yn y pyramid

Ymateb Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru i’r sefyllfa

Yn wahanol i rai clybiau eraill, dywed Amlyn Ifans fod dialog cyson wedi bod rhwng y clwb a’r gymdeithas bêl-droed. Eglurai:

“Mae ganddo ni berthynas dda iawn gyda nifer o staff y gymdeithas ac felly mewn safle ffodus iawn, ond dwi’n cydnabod bod rhai clybiau’n ffeindio hi’n anodd a bod ychydig o ddryswch ynglŷn â’r sefyllfa.”

Er hynny, esbonia y byddai’n dda i’r undeb gymryd rheolaeth dros y sefyllfa, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gohirio’r gynghrair hyd at ddechrau’r flwyddyn nesaf:

“Mi yda ni wedi siarad gyda’r Undeb Bêl-droed a’r farn ‘dani wedi ei roi ydi, pam na newch chi ddod dweud bydd ‘na ddim pêl-droed tan Ionawr a dyna ni, yn lle ein bod yn hanner gobeithio efallai cawn chwarae ym mis Rhagfyr. Mae’n debyg eu bod yn gyndyn iawn wneud hynny,” meddai.