Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd i leddfu’r pwysau ar ysbytai

Daw hynny yn dilyn datganiad eu bod yn gweithredu “dan bwysau eithafol”.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Llun gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd i leddfu’r pwysau ar ysbytai.

Er bod lefelau gweithgarwch yn uchel yn y gaeaf, mae eleni yn cynnwys heriau ychwanegol y sgil pandemig y coronaferiws, gan gynnwys prinder staff.

Daw hynny wedi cynnydd sylweddol yn nhrosglwyddiad y feirws yn y gymuned yn ar draws y tair sir.

Canllawiau’r Bwrdd Iechyd

 Mae’r Bwrdd Iechyd wedi amlinellu canllawiau  gall helpu leddfu’r pwysau ar ysbytai:

  • I gael gofal brys ac mewn argyfwng yn unig, ffoniwch 999 – mae ysbytai yn parhau i weld cleifion sydd ag anghenion meddygol argyfyngol, yn ogystal â chleifion sydd ar lwybrau gofal canser y gofynnwyd iddynt fynychu.
  • Os nad yw’n argyfwng, gallwch ffonio 111, ymweld â’ch fferyllfa leol neu ffonio eich meddygfa.
  • Gall teuluoedd sydd â pherthnasau mewn ysbyty sydd wedi profi’n negyddol am Covid-19, ac sy’n feddygol addas i gael eu rhyddhau o ysbyty, chwarae rhan hanfodol yn ein helpu trwy gynorthwyo’r broses o ryddhau o ysbyty i’r cartref – ffoniwch Brif Nyrs y ward i drafod anghenion unigol.
  • Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd – a helpu i achub bywydau. Dilyn arweiniad y llywodraeth a Chadw Cymru yn Ddiogel trwy aros allan o gartrefi ein gilydd, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn; cyfyngu faint o bobl rydych chi’n cwrdd â nhw; cynnal pellter cymdeithasol; golchi’ch dwylo’n rheolaidd, a gweithio o gartref os gallwch chi. Hefyd, os oes gennych symptomau, arhoswch gartref, archebwch brawf a dim ond gadael gartref i gael eich prawf.

“Ar bwynt peryglus iawn”

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae nifer o frechlynnau’n cael eu datblygu ac mae’r newyddion am gymeradwyo un o’r rhain yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Ond, mae’n hanfodol i’r cyhoedd ddeall ein bod yn dal i fod ar bwynt peryglus iawn yng nghylch y pandemig ac mae cryn dipyn i’w wneud eto cyn y gallwn ddychwelyd i normalrwydd.

“Rydym yn delio â llawer mwy o achosion COVID-19 yn ein hysbytai nag yn y gwanwyn. Yn anffodus, mae hyn hefyd wedi effeithio ar ein gweithlu ac wedi effeithio’n ddifrifol ar ein capasiti a rhwystro ein cynlluniau uwchgyfeirio.

“Er ein bod yn hyderus bod nifer yr achosion datganedig mewn ysbytai bellach yn gostwng, a’n bod yn gallu glanhau wardiau yn ddwfn a’u hail -agor yn ddiogel, y broblem fwyaf sy’n ein hwynebu o hyd yw salwch staff.

“Rwyf am fod yn glir iawn y byddwn yn dod trwy hyn, ond mae angen help y cyhoedd arnom nawr i atal trosglwyddo’r feirws yn ein cymuned a rhoi cyfle i’n gweithlu wella, fel eu bod yn gallu darparu gofal diogel ac effeithiol i’n cleifion.”

Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gael fan hyn.