gan
Ohebydd Golwg360
Mae Sw Borth wedi ail agor yn dilyn pryderon gan y cyngor sir am “ddiogelwch y cyhoedd a lles yr anifeiliaid.”
Mewn datganiad dywedodd Borth Wild Animal Kingdom: “Bydd y sw yn ailagor yr wythnos yma.”
“Er nad ydym wedi datrys y problemau gyda ein system drylliau diogelwch rydym wedi rhoi mesurau diogelwch ychwanegol ar waith i sicrhau diogelwch pawb, a bydd ardal y llewod yn parhau ar gau i’r cyhoedd.”
Mae’r sw yn gobeithio bydd modd datrys y problemau yma yn fuan, er mwyn agor pob rhan o’r safle i’r cyhoedd.
Diolchodd y perchnogion Dean a Tracy Tweedy am gefnogaeth y cyhoedd.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.”
Fis diwethaf bu rhaid cau y sw oherwydd pryderon iechyd a diogelwch: