BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.

  • Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
  • Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
  • Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau

23:30

? Actores Orau 16 oed neu iau:

 

3ydd Lois Medi Jones, Tal-y-bont

2il Cari Davies, Tregaron

1af Megan Dafydd, Llangeitho

23:29

? Actor Gorau 16 oed neu iau:

3ydd Ifan Davies, Llanddeiniol

2il Noa Harries Caerwedros

1af Bleddyn Lleu Thomas, Felinfach

23:28

Un cyhoeddiad pwysig wedi’i wneud yma yr holl ffordd o Sir benfro – mae Tomos wedi ennill Aelod Hŷn Sir benfro!

23:28

A dyna ddiwedd y traddodi… canlyniadau nesa!

 

23:27

Tal-y-bont:

“Dechraru tawel o’i gymharu â’r dramâu erall, ond na’th hi ddim aros yn dawel am hir! Bach o ddiffyg disgyblaeth weithiau, ond roedd y bobol ifanc yn sicr yn cael hwyl yn y cartre hen bobol yma!”

23:26

Llanwenog:

“Perfformiad abl a hyderus gan Twm Ebbsworth yn y ffars hon, a diwedd yr araith yn gomic iawn. Hoff o olygfeydd y cwc. Pawb yn gweithio’n galed, ac ôl gwaith cyfarwyddo, ond efallai ein bod ni’n colli’r tensiwn o dro i dro.”

23:25

Pontsian:

“Diolch yn fawr i Endaf, Cennydd a Carwyn am greu drama wreiddiol. Chwa o awyr iach! Y ddrama wedi’i saernïo’n grefftus, a’r cymeriadau’n rha ni’n adnabod heddiw ac yn siwtio’r actorion i’r dim. Tîm o actorion da yn gweithio’n gelfydd efo’i gilydd. Y cydchwarae ensemble yn gwella wrth fynd ymlaen. Cyfanwaith ardderchog – clod i’r actorion i gyd yn y cynhyrchiad gwych yma.”

23:23

Llanddewi Brefi:

“Cynhyrchiad egnïol iawn, ond efallai’n rhy egnïol? Wedi dweud hynny, mi wnes i fwynhau’r perfformiad yn fawr. Mae actio’n feddw yn anodd iawn, ac efallai dylsai Llyr fod wedi gwneud llai weithiau… ond roedd yr hangover yn spot on. Amseru perffaith, a gwaith greanus.”

23:22

Lledrod:

“Braf cael manteisio ar ddoniau cyfarwyddwr gyda’r clip radio ar y dechrau! Roedd perfformiadau pawb yn gyson dda a chredadwy a’r ddeialog yn symud yn slic, ond efallai bod tensiwr ar goll ambell waith. Perfformwyr da.”

23:21

Felinfach:

“Dewis dewr i gywasgu’r ddrama 3 act yn un o awr – llongyfarchiadau. Set effeithiol – o’r dodrefn cyfnod i’r pethau bach. Er mod i’n meddwl bod y ddrama ychydig yn hen ffasiwn, ac roedd y set a’r gwisgoedd yn effeithiol, ond efallai bod y ddeialog yn eich dal chi’n ôl ar adegau. Rhaid i mi longyfarch bleddyn Thomas am bortread diymdrech o Gwyn – gwaith aeddfed a chryno. Pob clod am fynd i’r afael â’r ddrama yma.”