BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob noson, y feirniadaeth a’r canlyniadau.

  • Clwb Ponstian yn mynd â hi ar ddiwedd yr wythnos, gyda CFfI Llangwyryfon yn ail a Chlwb Llangeitho yn drydydd
  • Tri aelod oedd wedi sgriptio’r ddrama orau eleni (Endaf, Carwyn a Cennydd)
  • Y beirniad Janet Aethwy yn canmol pob clwb am gystadlu ac yn annog pawb i fynd mas i berfformio eto yn eu cymunedau

23:22

Lledrod:

“Braf cael manteisio ar ddoniau cyfarwyddwr gyda’r clip radio ar y dechrau! Roedd perfformiadau pawb yn gyson dda a chredadwy a’r ddeialog yn symud yn slic, ond efallai bod tensiwr ar goll ambell waith. Perfformwyr da.”

23:21

Felinfach:

“Dewis dewr i gywasgu’r ddrama 3 act yn un o awr – llongyfarchiadau. Set effeithiol – o’r dodrefn cyfnod i’r pethau bach. Er mod i’n meddwl bod y ddrama ychydig yn hen ffasiwn, ac roedd y set a’r gwisgoedd yn effeithiol, ond efallai bod y ddeialog yn eich dal chi’n ôl ar adegau. Rhaid i mi longyfarch bleddyn Thomas am bortread diymdrech o Gwyn – gwaith aeddfed a chryno. Pob clod am fynd i’r afael â’r ddrama yma.”

23:18

Mydroilyn:

“Y set a’r gwisgoedd yn lliwgar, ac elfennau gweladwy gryf. Efallai bod angen tipyn mwy o waith yn creu tensiwn a chyflymder addas, ond ymdrech dda gan bawb.”

23:17

Llangwyryfon:

“Wrth i’r ddrama fynd rhagddi, roedd yr hwyl yn cynyddu ac roeddech wedi creu cymeriadau cofiadwy iawn. Y ddeialog yn llifo’n tu hwnt o naturiol, ac roedd ’na ddigon o gomedi, yn doedd?”

23:16

Trisant:

“Dwi’n eich llongyfarch yn fawr am greu eich gwaith eich hun gyda’r ddrama hon. Perfformiadau graenus gan Megan, Sioned ac Elfed.”

23:16

Tregaron:

“Mae natur y ddrama bach yn araf ar y dechrau, ond roedd perfformiad bywiog a sparki Cari yn effeithiol. Mi wnes i fwynhau perfformiad Gwion Jones yn arbennig wrth iddo fynd i fwy a mwy o bicil.”

23:14

Troed-yr-aur:

“Dewis dewr o ddrama – a’r criw wedi cael hwyl dda iawn arni. Roedd hi’n gweithio orau pan o chi i gyd yn llonyddu ac yn gweithio fel ensemble gyda’ch gilydd. Yr olygfa yn yr hanner tywyllwch yn gweithio’n arbennig.”

23:13

Bro’r Dderi:

“Efallai bod hon yn ymddangos fel drama hawdd, ond roedd angen creu tensiwn rhwng y cymeriadau, ac efallai na lwyddwyd bob amser. Ymdrech dda.”

23:12

Caerwedros:

“Mi chwerthis i lond fy mol ar berfformiad hynod o liwgar a chellweirys Noa fel yr hen ddyn”

23:12

Llangeitho:

“Roedd hwn yn gynhyrchiad slic, di-lol, ond yn dwt o ddramatig.

Y cast wedi’u cyfarwyddo’n fanwl i greu cynhyrchiad â glein arni”