Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yng ngogledd Ceredigion.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen
Côr agored ar Facebook yn codi calon
Wrth ymateb i’r holl newyddion am y coronafeirws ar hyd gwefannau cymdeithasol a’r cyfryngau mae rhai wedi mynd ati i geisio codi calonnau gyda chân, yng ngwir draddodiad y Cymry.
Syniad Catrin Angharad Jones o Ynys Môn ydi’r dudalen Facebook “CÔR-ONA!”
Mae Catrin yn gyn-athrawes, yn gantores, arweinyddes, beirniad a nawr yn helpu i ddiddanu’r genedl a’r rhai sydd wedi gorfod ynysu eu hunain yn barod.
Ers i’r dudalen ymddangos fore dydd Mawrth, (Mawrth 17), mae dros 4,000 o aelodau wedi ymuno, os hoffech chi ymuno yn yr hwyl cliciwch yma.
Darllenwch fwy am y stori ar golwg360
Busnesau lleol yn cydweithio ac addasu
DIWEDDARIAD CORONAFIRWS18 Mawrth 2020 Ni fydd y Pwyllgor Gwaith yn cael ei gynnal heno! (18/03)Yn dilyn y…
Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Wednesday, 18 March 2020
Diweddariad gan @Cletwr
Mae'r caffi wedi cau heddiw, a bydd yn parhau ar gau am y tro.
Mae'r holl ddigwyddiadau a chyfarfodydd rheolaidd sy'n cael eu cynnal yn y caffi hefyd wedi'u canslo.
Mae'r siop yn parhau i fod yn AGORED ac nid oes gennym gynlluniau i'w chau.
Gweler isod pic.twitter.com/5E87RTww74
— Cletwr (@Cletwr) March 18, 2020
Gwyliau’r Pasg i ddechrau’n gynnar
YN TORRI: Ysgolion Cymru i gau erbyn dydd Gwener #newyddion https://t.co/qdZWvbOuLd
— golwg360 (@Golwg360) March 18, 2020
Neges gan Canolfan y Celfyddydau:
I’n holl ffrindiau a chefnogwyr,
Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar gau i ymwelwyr o Ddydd Mawrth 17fed o fis Mawrth) hyd yr hysbysir yn wahanol. Diogelwch ein cynulleidfaoedd a’n staff yw ein prif flaenoriaeth wrth wneud y penderfyniad hwn. Byddwn yn parhau i ddilyn cyfarwyddyd ynglyn â phryd y byddwn yn ail ddechrau ein rhaglen.
Mae’r Swyddfa Docynnau yn cysylltu â phawb sydd wedi prynu tocynnau i drefnu ad-daliadau ac i roi gwybodaeth am ddyddiadau sydd wedi eu hail drefnu ond gofynnir i chi fod yn amyneddgar gan fod ‘na gannoedd o bobl i gysylltu â nhw. Byddwn yn diweddaru ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, felly cadwch olwg ar y newyddion diweddaraf.
Diolch am eich amynedd, dealltwriaeth a chydweithrediad. Anfonwn ein dymuniadau gorau at bawb yn ystod y cyfnod anodd hwn ac ‘rydym yn wir werthfawrogi eich cefnogaeth. Cadwch yn ddiogel an edrychwch ar ôl eich gilydd.
Busnes bro y dydd
Yn y cyfnod rhyfedd a diflas yma, mae Bro360 yn awyddus i roi sylw i rai o fusnesau bach sy’n gwneud pethe positif yn ein cymunedau.
Heddiw, Caffi Gruff yn Tal-y-bont:
Busnes bro y dydd – Caffi Gruff, Tal-y-bont
Diweddariad gan Ysgol Penweddig
Wele’r datganiad isod gan y Cyngor Sir:
Fel mesur rhagofalus, penderfynwyd cau ysgol Penweddig heddiw er mwyn gwneud gwaith glanhau ychwanegol. Daw hyn ar ôl i aelod o staff ddatblygu symptomau coronafeirws. Bydd yr ysgol yn ailagor bore fory.
— Ysgol Penweddig (@YsgolPenweddig) March 18, 2020
Coronafeirws: cau Ysgol Penweddig yn Aberystwyth
Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig wedi cau.
Mae Golwg360 ar ddeall fod Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig ar gau heddiw oherwydd y coronafeirws.
Cadarnhaodd yr Ysgol wrth Golwg360 fod y dewis i gau’r ysgol wedi cael ei wneud er mwyn glanhau’r adeilad heddiw fel mesur diogelwch.
Gwasanaeth Dosbarthu gan Siopau Lleol Aberystwyth
Mae’r Cigydd Rob Rattray wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cyd weithio a Marchnad Bysgod Jonah’s yn nhref Aberystwyth er mwyn darparu gwasanaeth dosbarthu bwyd i’r henoed a phobol sydd yn bryderus ynglŷn a gadael eu cartref.
Ydych chi’n cynnig gwasanaeth tebyg? Defnyddiwch y Blog Byw yma i rannu â cwsmeriaid.
? *GWASANAETH DOSBARTHU?Os ydych yn bryderus ynglŷn â gadael eich cartref neu ynghylch berthnasau mewn oed, rydym ni a…
Posted by Rob Rattray Butchers on Tuesday, 17 March 2020
?? *GWASANAETH DOSBARTHU JONAH'S*??Os ydych yn bryderus ynglŷn â gadael eich cartref neu ynghylch berthnasau mewn oed,…
Posted by Jonah's Fishmarket / Marchnad Bysgod Aberystwyth on Friday, 13 March 2020