BLOG BYW: Ymateb bro Aber i helynt y coronafeirws

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal BroAber360

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yng ngogledd Ceredigion.

Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.

  • Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen

14:03

Cau’r Llyfrgell Genedlaethol i’r Cyhoedd

Cau'r Llyfrgell i'r CyhoeddYn sgil y pryderon ynglŷn â lledaeniad COVID-19 ac er lles ein darllenwyr ac ymwelwyr, bydd…

Posted by Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales on Tuesday, 17 March 2020

 

Darllenwch mwy am hyn ar Golwg360

14:02

Diweddariad Coronafeirws gan Ben Lake

‼️ Coronavirus – COVID-19: Tuesday, March 17th interim updateI have received a number of messages from individuals and…

Posted by Ben Lake – Ceredigion on Tuesday, 17 March 2020

12:06

Clwb Athletau Aberystwyth

Mae Clwb Athletau Aberystwyth wedi penderfynu canslo holl sesiynau hyfforddi tan ddiwedd mis Ebrill.

Mewn datganiad ar Facebook dywedodd y clwb eu bod nhw hefyd ar ddeall bod un o’u hyfforddwyr ieuenctid wedi bod mewn cyswllt gydag aelod o’i deulu sydd bellach yn dioddef o COVID-19.

Ers hyn mae’r hyfforddwr yn hunan ynysu, ond cyn derbyn y wybodaeth bu’n hyfforddi sesiwn rhedeg blwyddyn 6 nos Fawrth diwethaf (Mawrth 10).

Mae’r Clwb Rhedeg yn annog unrhyw un sydd wedi bod mewn cyswllt gyda’r hyfforddwr i ddilyn cyfarwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd.

 

10:50

£200m i helpu busnesau bach

Llywodraeth Cymru’n yn cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £200m i helpu busnesau bach sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws.

Fe fydd siopau a busnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethiannol o £51,000 neu lai yn derbyn cymorth cyfraddau busnes llawn.

Fe fydd busnesau â gwerth trethiannol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 oddi ar eu cyfraddau busnes.

Darllenwch mwy am hyn ar Golwg360

 

10:34

10:25

Cyhoeddiad y Prif Weinidog, Boris Johnson

Neithiwr (dydd Llun, Mawrth 16), cyhoeddodd y Prif Weinidog, Boris Johnson gyfres o fesurau i geisio mynd i’r afael a’r coronafeirws.

  • Dylai pawb osgoi tafarndai, clybiau a theatrau.
  • Ddylai pawb osgoi unrhyw gysylltiad gyda phobl eraill sydd ddim yn angenrheidiol
  • Dylai pobl dros 70 oed, menywod beichiog a phobl sydd â chyflyrau iechyd, osgoi cysylltiad cymdeithasol gyda phobl eraill cymaint a phosib.
  • Osgoi unrhyw deithio nad oes angen.
  • Y Prif Weinidog yn argymell gweithio o adref os yn bosib.
  • Dylai unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sydd a pheswch parhaus neu dymheredd ynysu eu hunain am 14 diwrnod.

Daw’r mesurau newydd wedi i’r claf cyntaf yng Nghymru farw o’r coronafeirws. Roedd y claf yn 68 oed ac wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

£475m i Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi o leiaf £1.5bn i’r llywodraethau datganoledig i sicrhau bod ganddyn nhw’r adnoddau i helpu pobl a busnesau wrth ymateb i Covid-19.