BLOG BYW: Ymateb bro Aber i helynt y coronafeirws

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal BroAber360

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yng ngogledd Ceredigion.

Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.

  • Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen

10:25

Cyhoeddiad y Prif Weinidog, Boris Johnson

Neithiwr (dydd Llun, Mawrth 16), cyhoeddodd y Prif Weinidog, Boris Johnson gyfres o fesurau i geisio mynd i’r afael a’r coronafeirws.

  • Dylai pawb osgoi tafarndai, clybiau a theatrau.
  • Ddylai pawb osgoi unrhyw gysylltiad gyda phobl eraill sydd ddim yn angenrheidiol
  • Dylai pobl dros 70 oed, menywod beichiog a phobl sydd â chyflyrau iechyd, osgoi cysylltiad cymdeithasol gyda phobl eraill cymaint a phosib.
  • Osgoi unrhyw deithio nad oes angen.
  • Y Prif Weinidog yn argymell gweithio o adref os yn bosib.
  • Dylai unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sydd a pheswch parhaus neu dymheredd ynysu eu hunain am 14 diwrnod.

Daw’r mesurau newydd wedi i’r claf cyntaf yng Nghymru farw o’r coronafeirws. Roedd y claf yn 68 oed ac wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Wrecsam Maelor.

£475m i Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi o leiaf £1.5bn i’r llywodraethau datganoledig i sicrhau bod ganddyn nhw’r adnoddau i helpu pobl a busnesau wrth ymateb i Covid-19.