BLOG BYW: Ymateb bro Aber i helynt y coronafeirws

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal BroAber360

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yng ngogledd Ceredigion.

Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.

  • Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen

16:24

Horeb, Penrhyn-coch

CAPEL HOREB, Penrhyn-coch

Yn unol â chyfarwyddyd diweddaraf y Llywodraeth ni chynhelir oedfaon na Chlwb Sul am gyfnod amhenodol. Os oes angen cymorth ymarferol ar unrhyw un rhowch wybod i’r Swyddogion. Cymerwch ofal!

16:23

Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn monitro’r sefyllfa

“Rydym yn monitro’r sefyllfa’n barhaus ac mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid allweddol.

“Ar hyn o bryd, ein gobaith yw cynnal Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst, ac mae’r staff yn parhau i weithio’n galed er mwyn gwireddu hyn.”

15:51

Dim cynlluniau i gau Coleg Ceredigion ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw un o gampysau’r Coleg Ceredigion.

Fodd bynnag, mae uwch Dîm Arweinyddiaeth y Coleg yn cynllunio ar gyfer cau.

Mewn datganiad dywedodd y Coleg:

“Diogelwch ein dysgwyr, ein gweithwyr, a’n hymwelwyr yw ein blaenoriaeth.

“Ar hyn o bryd, os ydych yn iach, dylech fynychu’r holl wersi ar yr amserlen, a lleoliadau, oni bai bod tiwtor eich cwrs neu eich tiwtor personol yn rhoi gwybod fel arall i chi.

“Byddem yn annog yn gryf eich bod yn parhau i gynllunio a pharatoi ar gyfer eich arholiadau a’ch asesiadau sy’n agosáu.”

Darllenwch y datganiad llawn ar wefan Coleg Ceredigion.

15:26

Emyn dros 60, 2019

EISTEDDFOD GADEIRIOL PENRHYN-COCH 2020

Yn sgîl y pryderon ynglŷn â COVID-19 penderfynwyd canslo Eisteddfod eleni oedd i’w chynnal ddydd Gwener 24 a dydd Sadwrn 25 o Ebrill 2020. Byddwn yn cadw y cynnyrch llenyddol gyrhaeddodd eisoes gan obeithio gallu trefnu Eisteddfod 2021 pan ddaw cyfle.

14:15

Dim dirwyon llyfrgell am 3 mis

Llun Llyfrgell Ceredigion

Mae Llyfrgell Ceredigion wedi cyhoeddi na fydd neb yn wynebu dirwyon am ddychwelyd llyfrau yn hwyr dros y 3 mis nesaf.

Mewn datganiad dywedodd Llyfrgell Ceredigion:

“Dydy ni ddim am i bobol boeni am ddychwelyd llyfrau yn hwyr dros y cyfnod hwn, felly ar gyfer y 3 mis nesaf ni fyddwn yn rhoi dirwy i neb. Os ydych angen adnewyddu eich llyfrau neu edrych ar fenthyg e-lyfrau neu e-lyfrau siarad ffoniwch un o’n llyfrgelloedd am fwy o wybodaeth.”

Am ragor o wybodaeth cliciwch yma

14:03

Cau’r Llyfrgell Genedlaethol i’r Cyhoedd

Cau'r Llyfrgell i'r CyhoeddYn sgil y pryderon ynglŷn â lledaeniad COVID-19 ac er lles ein darllenwyr ac ymwelwyr, bydd…

Posted by Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales on Tuesday, 17 March 2020

 

Darllenwch mwy am hyn ar Golwg360

14:02

Diweddariad Coronafeirws gan Ben Lake

‼️ Coronavirus – COVID-19: Tuesday, March 17th interim updateI have received a number of messages from individuals and…

Posted by Ben Lake – Ceredigion on Tuesday, 17 March 2020

12:06

Clwb Athletau Aberystwyth

Mae Clwb Athletau Aberystwyth wedi penderfynu canslo holl sesiynau hyfforddi tan ddiwedd mis Ebrill.

Mewn datganiad ar Facebook dywedodd y clwb eu bod nhw hefyd ar ddeall bod un o’u hyfforddwyr ieuenctid wedi bod mewn cyswllt gydag aelod o’i deulu sydd bellach yn dioddef o COVID-19.

Ers hyn mae’r hyfforddwr yn hunan ynysu, ond cyn derbyn y wybodaeth bu’n hyfforddi sesiwn rhedeg blwyddyn 6 nos Fawrth diwethaf (Mawrth 10).

Mae’r Clwb Rhedeg yn annog unrhyw un sydd wedi bod mewn cyswllt gyda’r hyfforddwr i ddilyn cyfarwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd.

 

10:50

£200m i helpu busnesau bach

Llywodraeth Cymru’n yn cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £200m i helpu busnesau bach sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws.

Fe fydd siopau a busnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethiannol o £51,000 neu lai yn derbyn cymorth cyfraddau busnes llawn.

Fe fydd busnesau â gwerth trethiannol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 oddi ar eu cyfraddau busnes.

Darllenwch mwy am hyn ar Golwg360

 

10:34