Roedd Canolfan y Morlan yn orlawn ar nos Wener yr 28ain o Chwefror ar gyfer lansiad arddangosfa Gareth Owen. Arddangosfa arbennig yw hon o waith yr artist, ond gan ddefnyddio arddulliau gwahanol artistiaid. Cafwyd noson ddifyr lle’r oedd Gareth yn esbonio cefndir y darlun o gelf sydd yn cael eu harddangos yn y Morlan dros yr wythnosau nesaf.
Clodfori Aberystwyth, ei gartref ers dros 4 mlynedd, oedd rhan o’r symbyliad. Er iddo gael ei fagu yn Llanuwchllyn, treuliodd Gareth flynyddoedd fel athro arlunio yng Nghaerdydd, Rhydfelen, Y Bala a Llandudno. Bu hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffyrdd gorau o gynnwys celf mewn addysg, tra yn gweithio i “Cynnal” a APADGOS.
Mae Gareth Owen yn artist cysyniadol ac mae ei arddangosfeydd yn cynrychioli penllanw prosiect arbennig sydd yn cael eu datblygu dros gyfnod o dair blynedd. Yn y gorffennol, roedd yr arddangosfa Englynion yn delio yn bennaf gyda chysylltiadau geiriau, barddoniaeth gyda chelf weledol. Roedd arddangosfa Cysgod y Capel yn seiliedig ar ei gefndir anghydffurfiol Cymreig ac roedd pob agoriad swyddogol yn cynnwys trafodaeth ar ffurf seiat.. Yn ei arddangosfa Tri yn Un, roedd yn ymdrin gyda themâu mwy amwys megis cylch bywyd, traddodiad a ffawd. Mae’r teitl Tri yn Un yn cyfeirio at gynnwys yr arddangosfa sef gweithiau celf unigol, gosodiad a drama a ysgrifennwyd gan Gareth Owen i gyd fynd a’r arddangosfa. Roedd ei brosiect Llanuwchllyn yn delio gyda brogarwch, hiraeth, alltudiaeth, atgofion ac ymateb i farddoniaeth Ef hefyd oedd cynllunydd llwyfan dramâu cerdd Cwmni Theatr Maldwyn.
Dyma ran fach o araith Gareth
Cafwyd cyflwyniad gan Ffion Rhys (curadur Arddangosfa Canolfan y Celfyddydau)