Almaenwyr artistig Bont-goch

Hanes cymuned o deuluoedd Almaenig wedi setlo yn Bont-goch ym 1950au mewn llyfr newydd am yr ardal

Mererid
gan Mererid
Hen Ficerdy Bont-gochRichard Huws

Pwy fyddai yn meddwl fod cymuned o deuluoedd o’r Almaen yn setlo ym Mhont-goch ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf?

Y teulu cyntaf i setlo oedd Ruth Evans (nee Jolles) a’i dau blentyn ifanc yn Ficerdy Bont-goch. Roedd Ruth yn weddw i Ifor Leslie Evans. Roedd yn Brifathro Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth o 1934 hyd ei farwolaeth yn 1952 yn 55 mlwydd oed. Cyfrifoldeb y Brifysgol oedd dod o hyd i gartref i Ruth, ac roedd ficerdy Bont-goch yn wag, o ganlyniad i uno eglwysi Penrhyn-coch a Bont-goch.

Roedd Ruth yn 40 mlwydd oed pan fu farw ei gwr, ac roedd wedi dysgu Cymraeg. Roedd y plant yn 11 ac 8 mlwydd oed. Roedd tad Ruth yn rheithor yn Hamburg, ac ymfudodd ei brawd i America, lle’r oedd Ruth pan fu farw Ifor.

Roedd Ruth Jolles yn wreiddiol o Hamburg, ac roedd yn yr ysgol gyda Frede Prag. Perswadiodd Adolf a Frede Prag i setlo yn Bont-goch. Dihangodd Adolf a Frede yr Almaen ym 1938 oherwydd Natsïaeth ac ymosodiadau ar Iddewon. Cyfarfu Frede ac Adolf ym 1937, ac roedd Frede yn ferch i hanesydd celf Aby Warburg (1866–1929)

Ganwyd Adolf yn 1906 a bu’n fathemategydd enwog. Roedd yn athro ysgol yn yr Almaen, ac fe fu’n gyfrifol am gyd-ysgrifennydd “The Mathematical Papers of Isaac Newton“. Ymddeolodd y ddau i Rydychen, a bu farw Adolf a Frede ym 2004 wedi 65 mlynedd o fywyd priodasol, 3 mab a 7 o wyrion ac wyresau.

https://core.ac.uk/download/pdf/82758379.pdf

Teulu arall Almaeneg a symudodd o ganlyniad i gefnogaeth Ruth Evans oedd Hannelore ‘Hanne’ Richter, ac roedd hi’n briod gyda Jack Yates, hefyd yn arlunydd. Roedd Jack yn gweithio yn Bridfa Gogerddan. Roedd y pumdegau yn gyfnod artistig iawn a chynhyrchiol i’r rhai a setlodd yn yr ardal.

I gael mwy o wybodaeth am deuluoedd Almaenig Bont-Goch, darllenwch lyfr newydd Richard Huws, Pobl Topie Bont-Goch, fydd ar gael yn fuan iawn o Siop Inc, Siop y Pethe neu unrhyw siop lyfrau lleol. Mae’r llyfr hefyd ar gael ar Gwales ac yn lyfr dwyieithog. Anrheg Nadolig falle?

Four years into his term of office as Principal, I. L. Evans had married, on 11 November 1938, Ruth Jolles of Hamburg, who was eighteen years his junior. In old age, Ruth Evans vividly recalled the ‘much head-ache and a great deal of work’ caused her husband by the manifold complexities of the disendowment provisions of the Welsh Church Act, 1920. She wrote, ‘He often sat in his large arm chair in the lounge in Laura Place in a veritable sea of notes, strewn about his feet on the floor. Having managed to reduce the considerable debt the college was burdened with, when he first became Principal in 1934, by war economy, additional grants, donations and gifts, he was determined to start the post-war period without deficits, and gave his mind to this with whole-hearted energy’