Ysgoloriaeth i Esquel i Meinir

Bydd Meinir o Bow Street yn teithio i Esquel i godi ymwybyddiaeth o’r gefeillio rhwng y ddwy dref.

Mererid
gan Mererid
MeinirMererid

Meinir Olwen Williams

Mae Cymdeithas Partneriaeth Pobl Aberystwyth a Esquel (AEPPA) wedi dyfarnu ysgoloriaeth i fyfyriwr o Bow Street i deithio i Esquel i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r gefeillio sydd rhwng y ddwy dref.

I ddathlu deng mlynedd o efeillio rhwng Aberystwyth a Esquel, tref ym Mhatagonia, yn yr Ariannin, mae AEPPA wedi cynnig ysgoloriaeth ariannol o £1,500 i unrhyw un oedd am ymgeisio. Bydd yr ysgoloriaeth yn ariannu costau hedfan a theithio ac unrhyw gostau cysylltiedig, ynghyd â’r cyfle i ddod i nabod trigolion Esquel.

Pwy yw Meinir?
Magwyd Meinir Olwen Williams yn Llandre ac mae’n byw yn Bow Street. Roedd yn ddisgybl yn ysgolion Rhydypennau a Phenweddig, a dechreuodd ymddiddori mewn dysgu ieithoedd. Mae’n siarad Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg yn rhugl, yn ogystal a dysgwr Sbaeneg. Bu’n gwirfoddoli gyda Cwrs Haf Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth, a chyfarfu a myfyrwyr o Batagonia am y tro cyntaf. Gweld eu hymroddiad a’u dyfalbarhad i ddysgu Cymraeg a’i hysbrydolodd i ymgeisio am yr ysgoloriaeth.

Mae’n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig mewn ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd nifer o wobrau academaidd gan gynnwys Ysgoloriaeth Ymchwil gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Phrifysgol Bangor (2018); Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Rhagoriaeth)(2015); Gwobr Goffa Norah Isaac am y marc uchaf yn arholiad y Tystysgrif Sgiliau Iaith (2015); Gwobr Goffa y Fonesig Enid Parry am y marciau uchaf yn y flwyddyn gyntaf, Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor (2015) a’r Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2014).

Meinir y cerddor
Yn ogystal â’i gwaith academaidd, mae Meinir yn gerddor teithiol. Bu’n teithio yn yr Almaen gyda’r telynor Robin Huw Bowen yn chware’r delyn deires ac yn cyflwyno cerddoriaeth a diwylliant ein gwlad. Yn ogystal a’r Almaen, mae wedi chwarae yn yr Alban (Edinburgh International Harp Festival, 2012) a Llydaw (Festival Interceltique de Lorient, 2018). Mae’n gyfarwydd â chyfeilio i ddawnsio gwerin ac yn aelod o fand Parti Dawns Aelwyd Aberystwyth ers blynyddoedd. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau gefeillio San Brieg.

Beth fydd angen iddi wneud?
Rôl Meinir yn ei thair wythnos yn Esquel fydd creu a chynnal cysylltiadau, ac fe fydd cerddoriaeth yn ffordd wych o ddathlu deg mlwyddiant perthynas rhwng dwy dref, ar ddau gyfandir, sy’n rhannu diwylliant! Bydd yn cael cyfle i aros gyda trigolion Esquel, a chymharu’r modd y maent yn siarad Cymraeg.

Dymunwn yn dda i Meinir a’i llongyfarch ar ennill yr ysgoloriaeth.