Ysgol Gymraeg Aber yn dathlu’r 80

Bu dathliadau yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ddydd Mercher wrth iddynt gofnodi 80 mlynedd ers i’r Ysgol gael ei sefydlu.

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Bu dathliadau yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar ddydd Mercher y 25ain o Fedi, wrth iddynt gofnodi 80 mlynedd ers i’r Ysgol gael ei sefydlu.

 

Cafodd yr Ysgol ei hagor yn 1939 diolch i ymdrechion Syr Ifan ab Owen Edwards, ac i ddathlu’r pen-blwydd buodd y disgyblion a’r staff yn gwisgo dillad o’r cyfnod.

Cafodd yr ysgol ymweliad arbennig, wrth i Mr David Meredith, a ymunodd â’r Ysgol yn 1944, alw heibio i rannu ei atgofion da’r plant.

Cynhelir Bore Coffi Macmillan yn yr ysgol rhwng 8:30 a 10:30 ar fore Gwener, Medi’r 27ain, ac mae croeso cynnes i bawb.