Uchafbwyntiau Steddfod Cwmystwyth 2019

Canlyniadau, lluniau, a sgwrs gyda bardd y Gadair.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Roedd naws hyfryd i Eisteddfod Gadeiriol Cwmystwyth ddydd Sadwrn, ac ymhlith y cystadlu brwd yr uchafbwynt oedd cadeirio bardd ifanc o Ferthyr, Morgan Owen.

Y Gadair

‘Bro’ oedd testun y Gadair eleni, a soniodd y beirniad Lyn Ebenezer bod Morgan – sydd bellach wedi symud i Aberystwyth – wedi cyflawni cryn gamp gyda’i gerdd rydd.

Dyn ifanc o Gwmystwyth – Dylan Lewis – grëodd y gadair fach o ddur.

Cewch glywed mwy am hanes y gerdd gan Morgan –

A dyma’r cyfle cynta i chi gael clywed y gerdd ei hun, o enau’r bardd –

 

Mynd o nerth i nerth

Ailgodwyd Eisteddfod Cwmystwyth yn 2015 ar ôl dros hanner canrif o fwlch. Mae wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, ac ar ôl cystadlu drwy’r dydd aeth yr Eisteddfod ymlaen tan bron i hanner nos.

Ac nid eisteddfod sy’n sownd yn y gorffennol yw hon.

Roedd y cystadlu’n digwydd yng Nghapel Siloam, ond roedd y trefnwyr wedi gosod linc fideo i ddarlledu’r cyfan ar sgrîn deledu yn y festri. Cyfle i bawb oedd yn mwynhau’r te ffein i wneud yn siŵr nad oedden nhw’n colli munud o’r cystadlu!

Te a thechnoleg yn festri Capel Siloam

Ambell ganlyniad o’r cystadlaethau llwyfan

Canu emyn dan 60 oed

1af Guto Lewis

Côr

1af Parti Camddwr; 2il Merched Bro’r Mwyn

Darllen darn o’r ysgrythur

1af Ifan Meredith

Alaw werin agored

1af Efan Williams; 2il Carys Mai; 3ydd John Glant – y tri o Ledrod!

Parti canu

1af Soar Bach; 2il Parti Camddwr; 3ydd Merched Bro’r Mwyn

Cân allan o sioe gerdd

1af Guto Lewis; 2il Lois; 3ydd Lyndsey Jenkins

Sgen ti dalent

1af Deuawd Efan Williams a Barry Powell

Her adroddiad agored

1af Enfys Hatcher-Davies

Her unawd agored

1af Efan Williams; 2il Barry Powell; 3ydd Guto Lewis

Blas o’r cystadlu

Dyma flas o gystadlaethau’r Sgen ti dalent a’r Her unawd, a sgwrs sydyn gyda Luned, un o gefnogwyr brwd yr eisteddfod leol –