Clwb Criced Aberystwyth – Tymor 2019
Yr oedd tymor Clwb Criced Aberystwyth eleni yn anarferol mewn sawl ffordd: yr unig gêm gafodd ei ganslo drwy’r tymor oedd gêm gyfeillgar ar ddechrau’r tymor ym mis Ebrill – a ddioddefodd effaith storm Hannah. Gyda’r storm mor gryf, aeth ddau o’n gorchuddion cae yr ochr anghywir i reilffordd Dyffryn Rheidol. Rhyfeddol! Cwblhawyd pob un gêm arall yn y Geufron ym misoedd Mai, Mehefin, Gorffennaf, Awst a Medi.
Y canlyniadau
Roedd y tymor yn dipyn o frwydr i ni gyda nifer o chwaraewyr hir dymor naill ai wedi gadael yr ardal neu ddim ond ar gael ar brydiau. Fodd bynnag, ar yr ochr positif, fe wnaeth y sefyllfa yma roi cyfle i’n chwaraewyr ifanc. Adlewyrchwyd diffyg profiad y ddau dîm yn y canlyniadau – gorffennodd y timau yn 5ed a 6ed mewn cynghrair o chwe thîm yn unig. Enillodd y tîm cyntaf 4 gêm a cholli 11, ac enillodd yr ail dîm 2 gêm a cholli 12. Nid oedd yn anghyffredin i dimau cynnwys mwy o fechgyn ysgol nac oedolion gan fod y cymaint o’r chwaraewyr yn absennol.
Er gwaetha’r methiannau lu (mae criced yn gêm galetach na rhai yn meddwl!), rydym yn cysuro ein hunain y bydd y bois ifanc yn flwyddyn yn hŷn y tymor nesaf, a blwyddyn yn ddoethach! Mae llawer ohonynt yn mynychu sesiynau hyfforddi yn y Drenewydd yn y flwyddyn newydd, a ddylai fod o fudd iddynt, ac yn rhesymegol, i’r clwb. Mae’n ddiddorol nodi bod gwobrau blynyddol eleni wedi cael eu hennill yn llwyr gan aelodau ifanc sy’n dal i fynychu’r ysgol.
Byth rhy gynnar i ddechrau
Mae llawer o blant oedran ysgol gynradd wedi mynychu sesiynau raglen ECB yr AllStars ar gyfer plant 5-8 oed. Mae gan ein Clwb fenter newydd, Aber Stars sy’n targedu grŵp oedran 9 – 11. Rhaid aros i weld faint o fudd i’r gêm a’r clwb fydd y mentrau hyn yn y dyfodol, ond bydd y plant mwyaf addawol o Aberstars yn gymwys i ymuno â llwybr Criced Cymru. Yn sicr, bydd tîm yn cystadlu yng nghystadleuaeth dan 15 Cymru yn 2020.
Croeso i ferched
Mae yna groeso mawr i unrhyw berson a fyddai’n hoffi helpu i symud y clwb ymlaen. Fe wnaethon ni ddechrau criced i ferched yn 2019 a byddem yn hoffi gweld mwy yn rhoi tro ar y gêm. Rydym hefyd angen mwy o hyfforddwyr, a bydd cwrs Lefel 1 (dau ddiwrnod mewn un penwythnos, yn y Drenewydd) ar gael yn y Flwyddyn Newydd i unrhyw un sydd am roi cynnig arni. Nid yw’r cwrs hwn yn gyfyngedig i aelodau Clwb Criced Aberystwyth.
Mae gan y clwb dudalen Facebook https://www.facebook.com/aberystwythcc/ ac os oes gan unrhyw un gwestiwn neu eisiau anfon neges, dyma’r ffordd orau o gysylltu â ni.