Targed ychwanegol i gronfa leol Eisteddfod 2020

Gofyn i bobol Ceredigion godi £70,000 ychwanegol, wedi i’r gronfa leol gyrraedd ei tharged yn gynnar

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae 8 mis i fynd nes Eisteddfod Tregaron 2020, ac mae cronfa leol ardal Ceredigion eisoes wedi cyrraedd ei tharged ariannol o £330,000.

Mae Elin Jones, Cadeirydd y Pwyllgor gwaith wedi cadarnhau fod y Gronfa wedi cyrraedd ei tharged a bellach wedi penderfynu ymestyn y targed i £400,000.

Daw’r cyhoeddiad yma wythnos wedi i’r Eisteddfod Genedlaethol gadarnhau bod y brifwyl yn Llanrwst eleni wedi gwneud colled o bron i £160,000.

Er hyn, mae’r pwyllgor gwaith yn awyddus i bwysleisio mai diben ymestyn y targed yw i wella’r cyfleusterau ar y maes. Y bwriad yw datblygu Pentref Dysgu Cymraeg a Phentref Gwledig yn yr Eisteddfod flwyddyn nesaf.

 

“Gwneud defnydd arbennig o unrhyw arian ychwanegol”

 

Ni fydd targed penodol yn cael ei roi i ardaloedd gwahanol meddai Elin Jones, “Yn hytrach, fe fyddwn ni’n eu hannog i barhau gyda’r gwaith da am ychydig fisoedd yn fwy, ac fe fyddwn ni’n gwneud defnydd arbennig o unrhyw arian ychwanegol a ddaw i’r coffrau.”

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus wedi’u cynnal gan bwyllgorau apêl ar draws y sir gan gynnwys cyngerdd mawreddog o Teilwng yw’r Oen dan arweiniad Rhys Taylor.

Mae Rhian Evans, ysgrifennydd Pwyllgor Apêl Tal y Bont yn ddiolchgar am gydweithrediad mudiadau a chymdeithasau lleol a ddaeth ynghyd i drefnu digwyddiadau i drawstoriad eang o bobol.

Yn ôl Manon Richards sy’n eistedd ar Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, “Mae ymestyn y targed yn adlewyrchiad o nod ‘Steddfod Ceredigion o gynnwys pobol efallai na fyddai fel arfer yn ymwneud â’r Eisteddfod.”

 

“Mae ymestyn y targed yn adlewyrchiad o nod ‘Steddfod Ceredigion o gynnwys pobol efallai na fyddai fel arfer yn ymwneud â’r Eisteddfod.”

 

Mae Megan Jones, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Tref Aberystwyth yn ffyddiog fod y targed newydd o fewn cyrraedd y Sir, ac yn destament i holl waith caled pobol yr ardal. Mae “gwelliannau ar y maes yn bethau sydd wir eu hangen” meddai, ac “mae dal nifer o addewidion a gwobrau eto i gael eu talu gan gynghorau a chwmnïau lleol.”

Fe groesodd Pwyllgor Apêl Tref Aberystwyth eu targed o £55,000 yr wythnos diwethaf.

 

Dywedodd llefarydd ar ran un pwyllgor apêl bod nifer o bwyllgorau wedi gosod targedau uwch i’w hunan ers y cychwyn, a’u bod nhw’n rhagweld y bydd y gronfa leol yn codi mwy na’r targed newydd o £400,000 sydd wedi ei osod gan y pwyllgor gwaith.

 

Diolchodd Elin Jones ar ran y Pwyllgor Gwaith i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hyd yn hyn.  “Mae’n wych o beth gweld cymaint o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y sir gyfan yn dod â phobl o bob cefndir ac oedran ynghyd.”

 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst.