Mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Ngheredigion

Cyngor Ceredigion wedi gosod pwyntiau gwefru yn eu prif swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberaeron.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae tipyn o ddiddordeb ar hyn o bryd mewn ceir trydan, ac ers mis Mehefin mae Cyngor Ceredigion wedi gosod pwyntiau gwefru yn eu prif swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberaeron.

Rhan o ymrwymiad y Cyngor Sir i leihau eu hallyriadau carbon blynyddol yw hyn, ac mae’r allyriadau hynny eisoes wedi gostwng 45% ers 2007.

Cletwr ar flaen y gad

Lle arall yng Ngheredigion sydd â phwynt gwefru cerbydau trydan yw caffi a chanolfan gymunedol Cletwr yn Nhre’r Ddôl.

Maen nhw’n gweld cryn ddefnydd ar eu pwynt gwefru, a dywedodd Rheolwr Busnes Cletwr, Karen Evans, “fod y niferoedd sy’n ei ddefnyddio’n cynyddu’n raddol”:

  • Yn y chwe mis diwethaf, bu 331 o wefriadau gan 90 o ddefnyddwyr, sef cyfanswm o 5,034KWH o egni. Mae hynny’n cyfateb i’r egni sydd ei angen i buro 3,146 litr o betrol.
  • Yn y mis diwethaf, bu 55 o wefriadau unigol gan 32 o ddefnyddwyr, sef cyfanswm o 858KWH o egni. Mae hyn yn cyfateb i’r egni sydd ei angen i buro 536 litr o betrol.

Bydd Cletwr yn cynnal digwyddiad Ceir Trydan ar ddydd Llun 16 Medi, lle gall pobl gwrdd â pherchnogion y cerbydau hyn i rannu gwybodaeth a gofyn cwestiynau.

Pwyntiau trydan yn holl feysydd parcio Aber? 

Ym mis Mehefin, gwnaed cynnig gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Aberystwyth i alw am bolisi cynllunio lle byddai pob maes parcio masnachol newydd yn gorfod cynnwys pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan fel amod caniatâd cynllunio.

Pwyntiau gwefru am dâl fydden nhw, fodd bynnag. Bydd yn rhaid i’r fath amod ar ganiatâd cynllunio gael ei gymeradwyo yn y pen draw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (Cyngor Sir Ceredigion).

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Tref Aberystwyth (ynghyd â’r Pwyllgor Cynllunio) am ragor o wybodaeth, ac rydym yn disgwyl ymateb.

Dod â busnes i Bluegrass Cottages

Un busnes lleol sydd â phwynt gwefru trydan yw Bluegrass Cottages yn Rhydgaled. Meddai Lisa Bumford, perchennog y busnes:

“Gosodon ni’r pwyntiau gwefru flwyddyn yn ôl, a’r fantais i ni yw ein bod ni’n gallu cynnig rhywbeth gwahanol i ddenu mwy o ymwelwyr i Aberystwyth.

“I gychwyn, roedden ni’n brysur iawn gyda gyrwyr cerbydau trydan oedd mewn cyfyng-gyngor: allen nhw ddim dod o hyd i bwynt gwefru a oedd yn gweithio.

“Ers i ni osod ein pwyntiau ni, mae gwefrydd cyflym wedi ei osod yn Cletwr a Llanymddyfri, ac mae’r cyngor wedi gosod rhai yn eu swyddfeydd yn Aberystwyth ac Aberaeron.

“Bellach, mae gennym westeion EV [cerbydau trydan] sy’n ailymweld.”