Protestio yn Aber yn erbyn atal y Senedd

2,500 o brotestwyr yn Aberystwyth ddydd Sadwrn i ddatgan eu gwrthwynebiad i benderfyniad Boris Johnson i atal Senedd San Steffan dros dro.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Roedd yr Aelod Seneddol Ben Lake a’r Aelod Cynulliad Elin Jones ymhlith 2500 o brotestwyr yn Aberystwyth ddydd Sadwrn i ddatgan eu gwrthwynebiad i benderfyniad Boris Johnson i atal Senedd San Steffan dros dro.

Ond, yn ôl cynghorydd lleol, roedd pobol yn protestio hefyd am eu bod “yn gwir deimlo bod y Deyrnas Unedig yn llithro tuag at golli democratiaeth”.

Ac, wrth alw ar i’r pleidiau eraill uno i wrthwynebu, fe ddywedodd cynrychiolydd y Blaid Lafur fod y brotest yn rhan o’r “rhyfel dosbarth.”

Poeni am ddemocratiaeth a’r Cynulliad

“Fe wnaeth sawl ward yn Aberystwyth, gan gynnwys fy ward i, bleidleisio dros Aros yn yr Undeb Ewropeaidd – dros 60%,” meddai Mark Strong o Blaid Cymru. “Mae’r brotest hon yn adlewyrchu barn yr ardal.”

Roedd pryder am ddyfodol y Cynulliad hefyd yn ffactor blaenllaw, meddai, am fod nifer o’r gwleidyddion sydd ynghlwm wrth ohirio’r Senedd hefyd yn elyniaethus i ddatganoli.

“Yr hyn maen nhw [y Llywodraeth Geidwadol] yn trio ei wneud yw profi ymateb pobol, i weld be’ newn nhw ei dderbyn.

“Hawdd eu gweld nhw’n mynd ar ôl ein llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru nesa’, os na wnewn ni ymateb yn gyhoeddus i’r hyn sy’n digwydd nawr.”

“Rhyfel dosbarth yw hwn”

Yn ei haraith hi, roedd Dinah Mulholland, Llafur Ceredigion, yn pwysleisio yr angen am undod a chydweithio er mwyn herio’r Ceidwadwyr a’u polisïau llymder sydd wedi ysbeilio cynifer o bobl ddosbarth gweithiol.

“Dyma’r bobol sydd ar frig y gymdeithas yn amddiffyn eu buddiannau eu hunain. Mae Brexit di-gytundeb yn rhan hanfodol o’u cynllun.

“Bydd yn sicrhau bod ein hawliau ni – hawliau gweithwyr, hawliau sifil, hawliau dynol – yn cael eu dwyn oddi arnom. Am taw rhyfel dosbarth yw hwn, rhaid uno fel dosbarth i’w ymladd

“Rydym wedi dangos yma yng Ngheredigion fod Llafur, Plaid Cymru, y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu gweithio gyda’i gilydd. Rhaid i hynny ddigwydd yn San Steffan hefyd.”

Ymhlith y gwleidyddion eraill yn y brotest roedd y cyn AS Mark Williams ac roedd nifer o brotestiadau eraill ledled Cymru a gwledydd Prydain dros y penwythnos.