Plygain Penrhyn-coch 2019

Plygain Penrhyn-coch

William Howells
gan William Howells

Unwaith yn rhagor eleni roedd Eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch dan ei sang ar gyfer y Blygain flynyddol.

Arweiniwyd y gwasanaeth gan y ficer Y Parchg Andrew Loat, a chafwyd darlleniad gan y Parchg Wyn Morris.

Agorwyd y Blygain gan blant Ysgol Penrhyn-coch ac wedyn daeth nifer o unigolion, partïon a chorau ymlaen i ganu. Braf oedd gweld pobl o bob oedran yn cymryd rhan a hefyd gyfeillion o sir Drefaldwyn ac o ardal Parc, y Bala. Diolch iddynt am ddod.

Un sylw a wnaed ar y ffordd allan oedd: ‘That was wonderful. So un-English.’

Ar ôl y wledd o ganu mwynhawyd gwledd o gawl a mins peis yn Neuadd yr Eglwys dan nawdd Cymdeithas y Penrhyn. Diolch i bawb oedd yn gyfrifol am drefnu.

Edrychwn ymlaen i ddathlu 30fed pen blwydd Plygain y Penrhyn yn 2020.

 

Rhai o’r unigolion oedd yn cymryd rhan

 

Rhai o’r partion oedd yn cymryd rhan

 

Trefor, Rhiannon ac Eleri

 

Côr Cantre’r Gwaelod

 

Cyfeillion o sir Drefaldwyn