Plaid Cymru ddim am “risgio” cytundeb etholiadol dros Geredigion

Plaid Cymru yn cadarnhau na fydd sedd Ceredigion yn rhan o’r pact gyda’r Democtatiaid Rhyddfrydol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau na fydd sedd Ceredigion yn rhan o’r fargen etholiadol y mae wedi’i tharo â’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion.

Dim ond 104 oedd y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y sir yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2017, sef 0.2% o’r bleidlais.

Doedd y Blaid ddim am “risgio’r holl drafodaeth” dros sedd Ceredigion, sy’n sedd y mae’n hyderus y bydd Ben Lake yn ei chadw.

“Gan fod y cytundeb yn cynnwys cymaint o seddi eraill, a gyda’r canlyniad mor agos y tro diwethaf, doedd neb eisiau bod ni’n risgio’r holl gytundeb ar un sedd [Ceredigion] oedd yn anodd i’w thrafod,” medd llefarydd ar ran Plaid Cymru.

“Ond gyda record Ben dros y blynyddoedd diwethaf, dydyn ni ddim yn poeni yn gwbl am golli’r sedd, rydyn ni’n hyderus iawn y bydd Ben yn ennill ‘ta beth.

Fydd y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion ddim yn cystadlu yn erbyn Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ynys Môn, Caerffili, Pontypridd, a Llanelli.

Mae golwg360 yn deall mai Mark Williams, a fu’n Aelod Seneddol ar Geredigion o 2005 i 2017, fydd yn sefyll dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth hon.

Rydym wedi cysylltu â swyddfa’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion ac yn y Cynulliad, yn ogystal â’i chynghorwyr ar Gyngor Sir Ceredigion, ac yn disgwyl ymateb.