Padarn v Padarn

Mererid
gan Mererid

Sut mae dau dîm sydd yn cyd-chwarae yn gallu chwarae ei gilydd?

Heddiw, ar y 12fed o Hydref 2019, cynhaliwyd gêm gwpan Len a Julia Newman rhwng Padarn United a Padarn Reserves. Mae’r ddau dîm yn hyfforddi gyda’i gilydd, ac yn aml yn rhannu chwaraewyr, felly roedd yn anffodus pan ddewisiwyd y ddau dîm i chwarae eu gilydd.

Tîmau wedi eu lleoli yn Llanbadarn yw’r ddau, ac yn chwarae ar gaeau Llety Gwyn, sydd rhwng y ddau drac rheilffordd. Ymunodd Padarn yng nghynghrair Canolbarth Cymru yn 1997, ond mae hanes y tîm yn mynd yn llawer pellach na hynny. Roedd tîm Padarn yn chwarae nôl yn 1936.

Beth oedd y canlyniad?
Nid yn annisgwyl, Padarn United oedd yr enillwyr yn sgorio 5 gôl, gyda rhan fwyaf o’r goliau yn yr ail hanner, pan gollodd Padarn Reserves ychydig o’u egni.

Beth oedd y canlyniadau eraill yn y gwpan
Ar yr un prynhawn, enillodd tîm Bont o 4 i 2 yn erbyn tîm Borth (dan arweiniad Stuart Bird).

Cyfartal oedd y sgôr rhwng Dolgellau Reserves a thrydydd tîm y Brifysgol. Penderfynodd tîm Dolgellau Reserves dynnu allan o’r gystadleuaeth felly trydydd tîm y Brifysgol sydd yn mynd i’r rownd nesaf.

Diolch i’r noddwyr
Hoffai tîm Padarn ddiolch i McDonalds am eu nawdd. Fe gollodd y tîm eu cadeirydd, y Cynghorydd Paul James yn ddiweddar drwy ddamwain erchyll. Paul oedd yn gyfrifol am sicrhau fod McDonalds yn noddi’r tîm yn ogystal a rhoi gwybodaeth am gemau’r tîm ar eu harwyddion ger y bwytdy. Mae Cameron, mab Paul yn un o chwaraewyr brwdfrydig y tîm.