‘Llwyddiant’ Gŵyl y Gwrthryfel yn Borth

Yn ôl Extinction Rebellion Cymru, roedd Gŵyl y Gwrthryfel yn Borth yn llwyddiant mawr.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn ôl Extinction Rebellion Cymru, roedd Gŵyl y Gwrthryfel yn Borth yn llwyddiant mawr.

Ac fe fydd cynrychiolwyr o’r ardal yn mynd i gymryd rhan mewn protest fawr ryngwladol yn Llundain.

Fe fydd honno’n rhan o ymgyrch fyd-eang y Gwrthryfel Rhyngwladol ar 7 Hydref pan  fydd XR Cymru yn ymuno â chynrychiolwyr o ganghennau eraill.

Gwreiddio

Pwrpas yr ŵyl yn Borth oedd paratoi ar gyfer y brotest ac roedd yr elfen leol wedi helpu i wreiddio egwyddorion y mudiad yn ardal gogledd Ceredigion, meddai llefarydd ar ran y mudiad.

“Mae llawer wedi dweud pa mor ddiolchgar oedden nhw i gael cyfle i wrando ar yr holl gyflwyniadau a sesiynau hyfforddi mewn un lle, a pha mor arbennig oedd gallu gwneud hynny yng nghwmni gwrthryfelwyr Cymreig eraill”.

‘Cryfhau seiliau’

“Mae’r ŵyl wir wedi cryfhau seiliau XRCymru,” meddai’r llefarydd. “Mae hyn wedi galluogi i bobl deimlo’n fwy hyderus i weithredu, ac yn barod i herio’r awdurdodau ynghylch eu hagwedd ‘business as usual’ tuag at yr Argyfwng Hinsawdd.

“Yn ystod y penwythnos, fe wnaethon ni drafod cynlluniau Gwrthryfel yr Hydref drwy gynnal Cynulliad y Bobl ac mae hynny wedi helpu inni siapio ein cynlluniau ar gyfer y brotest.

“Does dim modd i ni ddatgelu rhyw lawer eto, ond fe fyddwn yn rhannu safle yn Llundain gydag XRBryste, XR Rainbow Rebellion (cymuned Lesbiaid Hoyw Deurywiol a Traws), ac XRFfermwyr.

“Thema’r safle fydd ‘Brawdgarwch’; thema o adrodd straeon, dod at ein gilydd, rhannu barn, rhannu gofod ac adeiladu dyfodol gwell.

“Rydyn ni’n erfyn ar bawb o Gymru i drio dod i Lundain, hyd yn oed am ddiwrnod, i fynnu bod llywodraethau’r DU yn gweithredu i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd. Mae ein dyfodol yn y fantol.”