Her i gyllideb Cyngor Ceredigion

Mae gennych tan y 13ain o Hydref i geisio gosod cyllideb y Cyngor Sir.

Mererid
gan Mererid

Mae gennych tan y 13ain o Hydref i geisio gosod cyllideb Cyngor Sir Ceredigion drwy ddefnyddio cyllideb ar-lein. Mae Prif Weithredwr y Cyngor, Eifion Evans, yn annog y cyhoedd i helpu’r Cyngor, sydd yn
wynebu £6 miliwn o doriadau i’w gyllideb.

Mae’r toriadau o £6 miliwn yn sgil toriadau San Steffan, sydd yn ariannu Llywodraeth Cymru, sydd yn ei dro yn ariannu’r Cynghorau Sir. Mae’r Cyngor wedi gorfod arbed £45 miliwn ers 2012 ac hyn yn cyfateb a dros 700 o swyddi llawn amser. Felly, mae’r Cyngor eisoes wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ynghylch sut a ble yr ydym yn gwario eu harian a sut i wneud arbedion, gan gynnwys trawsnewid y ffordd maent yn darparu gwasanaethau. Bydd unrhyw doriadau pellach yn boenus a byddant yn cael effaith negyddol ar wasanaethau.

Eich gwasanaethau chi yw gwasanaethau’r Cyngor. Dyna pam ei bod yn bwysig fod holl ddarllenwyr BroAber a phobl Ceredigion yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

https://forms.ceredigion.gov.uk/ufs/CONSULTATION_2019.eb?Ref=6&ebd=0&ebz=2_1570647245107

Gallwch roi cynnig arni drwy lithro’r botwm er mwyn dangos lle’r hoffech i’r Cyngor wario llai o arian. Y toriad mwyaf y gellir ei wneud ym mhob maes yw 25%, felly rhaid blaenoriaethu. Er mwyn cwblhau’r her, y nod yw addasu’r gyllideb ar gyfer pob adran hyd nes y bydd y gyllideb gyfan wedi’i chwtogi gan £6 miliwn.

Y bwriad yw dangos i’r cyhoedd fod rhain yn ddewisiadau anodd iawn, yn yr un modd â’u bod yn ddewisiadau anodd i’r Cynghorwyr pan fydd yn angen iddynt osod cyllideb 2020-2021.

Beth wedyn?

Unwaith y bydd Her y Gyllideb wedi ei gwblhau, bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad i’r Cynghorwyr ddefnyddio i’w helpu i wneud eu penderfyniadau pwysig ynghylch y gyllideb.

Mae gennych tan y 13ain o Hydref 2019 i sicrhau fod y gwasanaethau sydd yn bwysig i chi yn cael eu diogelu.