Gŵyl Coeden Nadolig Penrhyn-coch

Arddangosfa Coeden Nadolig

William Howells
gan William Howells

Arddangosfa Coeden Nadolig Eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch

Coeden Nadolig gan Merched y Wawr
Coeden Nadolig gan Glwb Celf Penrhyn-coch

Cynhelir Gŵyl Coeden Nadolig yn Eglwys Sant Ioan Penrhyn-coch eleni eto. Ni roddwyd testun penodol y tro hwn, gan roi cyfle i bawb ddefnyddio’u dychymyg.

Ceir 19 o goed ardduniedig gan gynrychiolwyr amrywiol gymdeithasau’r gymuned gan gynnwys:  Cyfeillion yr Eglwys, Ysgol Penrhyn-coch, Sefydliad y Merched, Cinio Cymunedol, Bingo, y Bore Coffi, Capel Horeb,  y Cylch Chwarae, Neuadd y Penrhyn, Brownies, y Clwb Celf, Eglwys Penrhyn-coch, Urdd y Gwragedd, Eglwys Elerch, Merched y Wawr, y Cylch Meithrin, Patrasa a’r Clwb Sul.

Pa goeden yw’r orau gennych? Dewch draw i fwynhau dros baned a mins pei.

Bydd yr Arddangosfa ar agor yn Eglwys Penrhyn-coch  o 14 Rhagfyr 2019 tan 4 Ionawr 2020 rhwng 2 a 7 o’r gloch.

Ymwelwyr cyntaf i’r Arddangosfa – o Lanandras!