Gwrachod Ceredigion

Peth o ffrwyth ymchwil Efa Lois i wrachod Ceredigion, gyda darluniau gwreiddiol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r arlunydd Efa Lois wedi bod yn ymchwilio i wrachod Cymru yn ddiweddar, ac mewn da pryd ar gyfer Nos Calan Gaeaf, dyma ffrwyth ei hymchwil i wrachod Ceredigon.

*

Trwy gydol mis Hydref dwi wedi bod yn ymchwilio i wrachod Cymru. Dechreuodd y prosiect fel rhan o sialens #inktober, lle mae gofyn i rywun arlunio rhywbeth a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd ym mis Hydref. Roedden i am ymchwilio i wrachod Cymru gan fod menywod a chwedloniaeth Cymru yn themâu mawr yn fy ngwaith celf, a bod fy ymchwil ar gyfer Prosiect Drudwen wedi amlygu sawl chwedl am wrachod Cymreig i mi.

Ymchwiliais, a darganfod fod tair gwrach, yn ôl y chwedlau, yn dod o ardal Ceredigion.

Beti’r Bont

Yn ôl y chwedl, roedd Beti’r Bont yn swynwraig adnabyddus a nerthol o Ystrad Meurig. Ni fyddai pobl yn meiddio gwneud cam â hi. Un bore, cwrddodd Beti â gwas ifanc oedd yn gweithio yn Nôl Fawr. Chwarddodd ef am ei phen, gan ddiystyru ei galluoedd goruwchnaturiol hi. Syllodd Beti arno am gyfnod hir, cyn ei adael.

Y noson honno, deffrodd y gwas a sylweddoli ei fod e wedi cael ei droi’n ysgyfarnog. Roedd ofn arno pan sylweddolodd fod dau filgi mawr yn syllu arno o gornel ei stafell. Rhedodd am ei fywyd, gyda’r ddau gi yn rhedeg ar ei ôl. Aethant drwy sawl cae a chlawdd cyn i’r gwas lwyddo i redeg yn ôl i Ddôl Fawr, a throi’n ddyn eto. Digwyddodd hyn eto sawl gwaith cyn iddo ymddiheuro i Beti’r Bont, a chydnabod ei galluoedd goruwchnaturiol hi, a thynnwyd y felltith oddi arno.

Gwrach Cors Fochno

Mae Cors Fochno yn gors fawr ger Borth yng nghanolbarth Cymru. Yn ôl chwedloniaeth, roedd gwrach yn arfer byw yno. Yn ôl y chwedl roedd hi’n saith troedfedd o uchder, yn denau ac roedd ganddi ben enfawr o wallt du. Mi fyddai hi’n torri i mewn i dau pobl i chwythu salwch yn eu hwynebau wrth iddyn nhw gysgu. Cyfeirir ato weithiau fel malaria.

Mari Berllan Biter

Yn ôl y chwedlau, roedd Mari Berllan Biter yn wrach o ardal Aberarth yng Ngheredigion. Yn un o’r chwedlau amdani, gwrthododd i Dic y Felin falu ŷd iddi, felly gwnaeth Mari i olwyn y felin droi am yn ôl. Dro arall bu i ferch ifanc o’r ardal ddwyn afal oddi ar Mari, a chafodd hi ei gorfodi, trwy wrachyddiaeth, i gerdded am yn ôl yr holl ffordd adref.

Dwi wedi bod yn cyhoeddi ffrwyth fy ymchwil bob dydd ar fy nhrydar (@efalois) ac ar fy Instagram (@efalois). Gallwch weld y darluniau trwy edrych ar #GwrachodCymru a dwi wedi cynhyrchu print nifer cyfyngedig o fy narluniau o’r gwrachod.

Dyma stori gan Efa Lois ar gyfer gwefan fro newydd BroAber360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://broaber.360.cymru