Gwobr i Ysgol Llanilar

Ysgol Llanilar yw’r ysgol gynta yn yr ardal i ennill gwobr arian y Siarter Iaith.

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Bu dathliadau yn Ysgol Llanilar yn ddiweddar, wrth iddi ddod yr ysgol gynta’n ardal gogledd Ceredigion i ennill gwobr arian gan y Siarter Cymraeg.

Rhan o amcan Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ydy’r Siarter Iaith.

Mae’r wobr yn dilyn gwaith caled dros y ddwy flynedd ddwetha gan bawb sydd yn ymwneud a’r ysgol, gyda’r gwaith yn cychwyn nôl ym Mai 2017.

Un o’r ffyrdd mae’r disgyblion wedi bod yn cynorthwyo gyda’r ymdrech yw trwy fod yn ‘Gewri Cymreig’ yr ysgol – rôl sydd yn cynnwys dyletswyddau fel cynnig gwersi Cymraeg i rieni, trefnu digwyddiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a sefydlu gorsaf radio dymhorol.

Dyma rai o’r disgyblion yn trafod gwaith y Cewri.