Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion

gan Caleb Rees

Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.

  • Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
  • Y Torïaid yn dod yn ail
  • Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.

21:39

Cyflweld â’r Aelod Seneddol, Ben Lake.

 

03:37

Canlyniad terfynol Ceredigion

03:18

Y canlyniad yn FYW nawr ar Facebook Live BroAber360.

Cofiwch hoffi’r dudalen er mwyn cael y newyddion lleol diweddaraf ar ôl heno hefyd!

https://www.facebook.com/BroAber360-110607700333942/

02:57

Wedi siarad gyda Mark Williams cyn aelod Seneddol Ceredigion rhwng 2005-2017 a roedd e’n amlwg yn siomedig gan ddweud fod un ennillydd amlwg i’w gael o edrych ar y papurau o bell. Fe wnaeth Mark ddweud ei fod yn edrych fel bod Ben Lake yn mynd i fynd ac ei longyfarch ar hyn gan ddweud fod angen llais cryf ar Ceredigion yn San Steffan. O ran y dyfodol, dywedodd Mark fod 20mlynedd yng ngwleidyddiaeth yn hen ddigon gan gymryd rhan mewn 8 etholiad ac felly yn cadarnhau ni fyddai’n sefyll eto. Er hyn pwysleisiodd y byddai’n dal i gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol ac yn dal i gefnogi’r Lib Dems mewn etholiadau i ddod.

02:30

Oce, tra’n bod ni’n aros.

Cynhalies i a Huw Jones arbrawf bach i weld faint ry’n ni bobol ifanc yn ei wybod am pa bynciau sydd wedi’u datganoli i Gymru, a pha rai sy’n berthnasol i San Steffan.

Ro’n ni eisiau gweld sut effaith oedd yr holl sôn am yr NHS ac addysg yn ystod cyfnod etholiad cyffredinol yn ei chael.

Dyma’r cwestiwn nethon ni ei holi ar Facebook, Twitter ac Insta:

Pwy sy’n rheoli iechyd i ni yng Nghymru?

  • Facebook (85 pleidlais): 72% yn dweud Caerdydd; 28% San Steffan
  • Twitter (30 pleidlais): 100% yn dweud Caerdydd
  • Instagram (15 pleidlais): 80% yn dweud Caerdydd; 20% San Steffan

Diddorol!

02:27

Fy Rhagolygon Personol – Wrth edrych ar sut mae pethau’n mynd ar hyn o bryd, dwi’n rhagweld fyd Ben Lake yn ennill gyda mwyafrif o tua 3,800. Cawn weld y canlyniad go iawn cyn bo hir, gobeithio!

Dafydd O Lewis
Dafydd O Lewis

Gobeithio fo ti’n iawn gwas ! Pa amser bydd y cynlyniad ti’n meddw

Mae’r sylwadau wedi cau.

01:58

Dim ond un ymgeisydd sydd ar ôl heb gyrraedd y cownt yng Ngheredigion…

01:55

Wedi cael cyfle i gael sgwrs cyflym gyda Ben a roedd e’n weddol ffyddiog fod pobl Ceredigion wedi’i gefnogi. Fe bwysleisiodd bod yr ymgyrch wedi bod yn un gref a diolchodd bod gymaint o bobl wedi bod allan yn helpu ledled y Sir.

01:50

Tîm Plaid Cymru yn y cownt

 

01:43

Chop chop!