Dathlu’r Fedal ym Mhenrhyn-coch!

Cafwyd noson arbennig yng Nghymdeithas y Penrhyn yng nghwmni’r Prif Lenor, Rhiannon Ifans.

William Howells
gan William Howells

Rhiannon Ifans, Prif Lenor 2019

Cafwyd noson arbennig yng Nghymdeithas y Penrhyn nos Fercher 16 Hydref yng nghwmni’r Prif Lenor, Rhiannon Ifans.

Rhiannon Ifans a’r fedal
Y fedal
Y fedal

Dechreuodd yr hanes ar fore Llun digon cyffredin, pan dderbyniodd alwad ffôn o Swyddfa’r Eisteddfod yn ei llongyfarch ar ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Profiad gwefreiddiol oedd codi yn y Pafiliwn a cherdded i’r llwyfan, lle y croesawyd hi gan yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, oedd yn gyd-fyfyriwr iddi yn y Coleg yn Aberystwyth. Teimlai’n gwbl gartrefol yn sefyll rhyngddo ef a cheidwad y cledd, Robin McBryde – mab i’w chyn-athrawes ymarfer corff yn Ysgol Gyfun Llangefni.

Ar lwyfan y Brifwyl
Ingrid
Ingrid: Clawr cefn

Cefndir y gwaith buddugol, Ingrid, yw dinas Stuttgart, dinas â’i system drenau tanddaearol yn rhedeg mewn ‘cylchoedd’ – ac felly’n gweddu’n berffaith i destun cystadleuaeth y Fedal! Cyflwynwyd Rhiannon i’r ddinas gan ei merch-yng-nghyfraith, Janina, ac mae’n amlwg ei bod yn dotio ar y lle, yn enwedig yn ystod tymor yr Adfent, ac roedd y lluniau hyfryd o’r marchnadoedd Nadolig yn codi awydd arnom i ymweld â’r ddinas hon lle mae’r ‘siampên yn llifo, y neuaddau jazz yn orlawn a’r tŷ opera dan ei sang.’

Nadolig yn Stuttgart

 

 

 

 

 

Coeden Nadolig yn Stuttgart

 

 

 

 

 

 

 

Ond diwedd ingol sydd i’r stori wrth i Ingrid gael ei tharo gan salwch meddwl a gafodd effaith greulon ar y teulu cyfan – ei gŵr, ei mab, a’i merch-yng-nghyfraith.

Adolygiad gan Bethan Mair ar Gwales

Adolygiad gan Llinos Dafis yn Y Tincer mis Medi, tud. 19

Llywydd y noson oedd Richard Owen.

Cafwyd darlleniad o’r nofel gan y Parchg Wyn Morris:

Cyflwynwyd dau englyn i Rhiannon gan Anwen Pierce:

Ti’r bardd a daenodd harddwch – ac afiaith

i’r cofio, a thristwch.

Daw er hyn, a’r eira’n drwch

ryw ias drwy ganol dryswch.

At y gofid roist atgofion – swyn jin,

a sain jazz o’r cyrion.

Troi synau cilfachau’r co’n

unawd a wnest, Rhiannon.

I gloi’r noson, parhawyd â’r naws Nadoligaidd wrth i Barti’r Penrhyn ganu’r garol ‘Ar gyfer heddiw’r bore’, ac i bawb fwynhau darn blasus o Stollen.

Un ffaith ddiddorol arall – enillodd Dafydd, gŵr Rhiannon, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974. A oes gŵr a gwraig arall wedi ennill yr un gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, tybed?

Eira Gwyn yn Salmon oedd y gwaith buddugol hwnnw, sef casgliad o lythyrau dychmygol gan Siôn Prys o Gaer-grawnt at aelodau o’i deulu yng Nghymru rhwng 1623 a 1633.

Eira Gwyn yn Salmon, 1974