Cafwyd noson arbennig yng Nghymdeithas y Penrhyn nos Fercher 16 Hydref yng nghwmni’r Prif Lenor, Rhiannon Ifans.
Dechreuodd yr hanes ar fore Llun digon cyffredin, pan dderbyniodd alwad ffôn o Swyddfa’r Eisteddfod yn ei llongyfarch ar ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. Profiad gwefreiddiol oedd codi yn y Pafiliwn a cherdded i’r llwyfan, lle y croesawyd hi gan yr Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, oedd yn gyd-fyfyriwr iddi yn y Coleg yn Aberystwyth. Teimlai’n gwbl gartrefol yn sefyll rhyngddo ef a cheidwad y cledd, Robin McBryde – mab i’w chyn-athrawes ymarfer corff yn Ysgol Gyfun Llangefni.
Cefndir y gwaith buddugol, Ingrid, yw dinas Stuttgart, dinas â’i system drenau tanddaearol yn rhedeg mewn ‘cylchoedd’ – ac felly’n gweddu’n berffaith i destun cystadleuaeth y Fedal! Cyflwynwyd Rhiannon i’r ddinas gan ei merch-yng-nghyfraith, Janina, ac mae’n amlwg ei bod yn dotio ar y lle, yn enwedig yn ystod tymor yr Adfent, ac roedd y lluniau hyfryd o’r marchnadoedd Nadolig yn codi awydd arnom i ymweld â’r ddinas hon lle mae’r ‘siampên yn llifo, y neuaddau jazz yn orlawn a’r tŷ opera dan ei sang.’
Ond diwedd ingol sydd i’r stori wrth i Ingrid gael ei tharo gan salwch meddwl a gafodd effaith greulon ar y teulu cyfan – ei gŵr, ei mab, a’i merch-yng-nghyfraith.
Adolygiad gan Bethan Mair ar Gwales
Adolygiad gan Llinos Dafis yn Y Tincer mis Medi, tud. 19
Llywydd y noson oedd Richard Owen.
Cafwyd darlleniad o’r nofel gan y Parchg Wyn Morris:
Cyflwynwyd dau englyn i Rhiannon gan Anwen Pierce:
Ti’r bardd a daenodd harddwch – ac afiaith
i’r cofio, a thristwch.
Daw er hyn, a’r eira’n drwch
ryw ias drwy ganol dryswch.
At y gofid roist atgofion – swyn jin,
a sain jazz o’r cyrion.
Troi synau cilfachau’r co’n
unawd a wnest, Rhiannon.
I gloi’r noson, parhawyd â’r naws Nadoligaidd wrth i Barti’r Penrhyn ganu’r garol ‘Ar gyfer heddiw’r bore’, ac i bawb fwynhau darn blasus o Stollen.
Un ffaith ddiddorol arall – enillodd Dafydd, gŵr Rhiannon, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974. A oes gŵr a gwraig arall wedi ennill yr un gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, tybed?
Eira Gwyn yn Salmon oedd y gwaith buddugol hwnnw, sef casgliad o lythyrau dychmygol gan Siôn Prys o Gaer-grawnt at aelodau o’i deulu yng Nghymru rhwng 1623 a 1633.