Cyngor yn ystyried troi at y gyfraith dros gyflwr yr hen eglwys Gatholig

Cyngor Tref Aberystwyth yn ystyried troi at y gyfraith i orfodi’r Eglwys Gatholig i gadw’r adeilad

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn ystyried troi at y gyfraith i orfodi’r Eglwys Gatholig i drwsio a chynnal hen eglwys Gatholig y dref.

Maen nhw wedi ysgrifennu at Archesgob Catholig Cymru, George Stack, yn mynegi gofid am “esgeulustod difrifol iawn” tros Eglwys Gatholig Gwenffrewi ar y Morfa Mawr.

Mae golwg360 yn deall y bydd y Cyngor yn ystyried troi at ran o’r Ddeddf Cynllunio Trefol a Gwledig 1990 os na fydd newid – sef gorfodaeth gyfreithiol ar berchennog adeilad i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gadw a’i gynnal mewn modd priodol.

Mae rhai plwyfolion hefyd yn anhapus fod yr Eglwys Gatholig yng Nghymru wedi troi cefn ar yr hen adeilad ac agor eglwys newydd.

Anghytuno

Mae’r Cyngor Tref yn anghytuno gyda barn yr Eglwys fod problemau mawr gyda chyflwr yr adeilad, gan olygu ei bod yn amhosib cael yswiriant arno.

“Mae arolygon diweddar, gan gynnwys rhai gan arolygwyr proffesiynol… wedi datgelu bod yr eglwys yn strwythurol-gadarn,” meddai’r llythyr sydd wedi ei lofnodi gan Faeres Aberystwyth, Mari Turner.

“Fe wnaeth ymweliad â’r safle gan uwch-swyddog rheoli adeiladau Cyngor Ceredigion gadarnhau hyn, wrth iddo ddatgan nad oes yna resymau dilys dros gau yr eglwys ar sail iechyd a diogelwch.”

Pan gafodd Eglwys Santes Gwenffrewi ei chau yn 2012, roedd yr esgob ar y pryd, yr yr Esgob Burns, wedi honni nad oedd dewis wedi i Gynghrair Yswiriant yr Eglwys Gatholig ddatgan bod problemau mawr gyda’r adeilad ac y byddai angen llawer o waith i’w ddiogelu – gwerth £360,000.

‘Eglwys blwyf i Saunders Lewis’

Mae nifer o blwyfolion hefyd yn gwrthod barn yr yswirwyr am gyflwr yr eglwys, gan bwysleisio ei hanes cyfoethog – ers y llynedd, maen nhw’n gorfod addoli yn Eglwys y Merthyron Cymreig ym Mhenparcau.

“Roedd yr eglwys yn eglwys blwyf i Saunders Lewis,” meddai un o’r gynulleidfa, Lucy Huws. “Yma y cafodd y litwrgi Cymraeg, y llyfr offeren Cymraeg a’r unig lyfr emynau Catholig Cymraeg (Emynau Catholig) eu rhoi at ei gilydd a’u cyhoeddi.”

Roedd hi hefyd yn pwysleisio cysylltiad yr eglwys gyda’r Esgob Daniel Mullins a fu’n llais Cymraeg i’r Eglwys Gatholig am flynyddoedd, wedi iddo ddysgu’r iaith yng Ngholeg y Santes Fair yn adeilad Castell Brychan, Aberystwyth.

Llywodraeth Cymru’n gwrthod rhestru

Er gwaetha’r cysylltiadau hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais i restru’r adeilad ar sail diddordeb pensaernïol neu hanesyddol neilltuol.

Eu dadl nhw yw bod llawer o adeiladau eglwys gwell yng Nghymru ac mai’r prif bwysigrwydd hanesyddol yw ei fod yn dangos twf Aberystwyth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

“Nid oeddem yn credu bod y diddordeb hanesyddol hwn yn ddigon argyhoeddiadol i gefnogi achos dros ei rhestru,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

Dyw Lucy Huws ddim yn cytuno: “Yn sicr mae eisiau codi’r pwyntiau yna eto, ei bod hi’n eglwys nodweddiadol ac yn un bwysig yn hanes Catholigiaeth yng Nghymru.”

Gorchudd maen allor yn mynd ar goll

Ar ben yr ymrafael dros ddyfodol yr adeilad, mae’r Cyngor yn deall bod gorchudd maen allor marmor Eidalaidd a roddwyd i’r eglwys gan deulu lleol er cof eu taid wedi mynd ar goll.

Mae’r Cyngor wedi holi’r archesgob yn ei lythyr a yw’r heddlu wedi cael gwybod am hyn.

Meddai Lucy Huws: “Roedd teulu lleol wedi rhoi, er cof i’w taid, carreg farmor, carreg allor, ac mae hwnna wedi diflannu. Ac rydyn ni wedi gofyn i’r archesgob, ac yn ei lythyr yn ôl, dywedodd: “I have asked the local parish priest”, a does ganddo fe ddim syniad.

“Y cwestiwn wedyn yw: ydy’r heddlu wedi cael gwybod, neu oes na rywun o’r esgobaeth sydd ag allweddi wedi mynd â hi? Ond dyw’r teulu eu hunain ddim yn gwybod lle mae’r garreg ‘ma.”