Coedwigoedd Cwm Einion yn rhan o gynllun £6.5 miliwn

Coedwigoedd yng ngogledd Ceredigion yn rhan o brosiect chwe-blynedd gwerth £6.5m

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ceisio gwarchod hen goed derw ar gyfer y dyfodol

Mae coedwigoedd yng ngogledd Ceredigion yn rhan o brosiect chwe-blynedd sydd newydd ei lansio i warchod a gwella cyflwr coedwigoedd derw hynafol gorllewin Cymru – y ‘Coedwigoedd Glaw Celtaidd’.

Fe fydd rhan o’r cyfanswm o £6.5 miliwn yn cael ei wario yng Nghwm Einon  ger Ffwrnais er mwyn rheoli planhigion dieithr fel rhododendron sy’n amharu ar y coedwigoedd ac, efallai, gael rhywfaint o bori yno.

Mae cymunedau’n ganolbwynt i’r prosiect, yn ôl Gethin Davies, Uwch Reolwr y prosiect, Coedwigoedd Glaw LIFE, mewn datganiad.

Fe fydd ymdrech i roi gwaith i fusnesau a chontractwyr lleol, meddai, ac fe fydd y prosiect cyfan yn dod i gysylltiad â 2,000 o bobol, gan gynnwys 800 o blant.

‘Budd i gymunedau’

“Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw fuddiannau o ganlyniad i’r prosiect yn cael eu gweld ymysg phobl a chymunedau lleol,” medai Gethin Davies. “Gan fod y prosiect yn ei ddyddiau cynnar, mae llawer mwy yr ydym yn gobeithio ei wneud rhwng rŵan a 2025.

“Cychwynnwyd y broses yma o ymgysylltu â’r gymuned leol yn ardal Cwm Einion drwy gynnal noson agored ym mhentref Ffwrnais nôl ym mis Chwefror eleni, ac mae’r trafodaethau wedi parhau ers hynny, yn enwedig gyda pherchnogion tir“.

Prif noddwyr y prosiect yw  Llywodraeth Cymru (£2m) a Rhaglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd (£4.5m). Bydd yn dod i ben yn 2025.