Codi £600 mewn bore coffi

Cefnogaeth dda i fore coffi Nadoligaidd Capel y Garn

gan Iestyn Hughes

Y Parch Ddr Watcyn James yn agor bore coffi Capel y Garn

Capel y Garn, Bow Street, yn codi dros £600 mewn bore coffi

 

Roedd awyrgylch braf a chynnes yn festri Capel y Garn bore Sadwrn, 30 Tachwedd, ar gyfer y bore coffi a stondinau a drefnwyd gan Gymdeithas y Chwiorydd. Cafwyd gair o groeso gan y Gweinidog, y Parch Watcyn James, cyn iddo fynd ati i dorri’r gacen Adfent arbennig – rhodd gan Gartref Tregerddan i ddiolch i Kathleen Lewis, un o aelodau’r Garn, am ei gwaith yn trefnu gwasanaethau yn y Cartref bob pnawn Sul.

 

Cafwyd llawer iawn o hwyl yn ceisio adnabod llefydd o gwmpas Cymru yn y cwis lluniau poblogaidd, gyda Lowri James yn enillydd haeddiannol.

 

Roedd elw’r bore tuag at HAHAV (Hosbis yn y Cartref) a Chapel y Garn, a llwyddwyd i godi £630 tuag at yr achosion yma, yn ogystal â chael cyfle hamddenol i gymdeithasu dros baned yng nghanol bwrlwm paratoi at y Nadolig.