Cloeon drysau wedi eu gludo ar gau yn Aberystwyth

Cafodd cloeon drysau banciau a siopau coffi yn Aberystwyth eu llenwi â glud ar Nos Galan Gaeaf.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Neithiwr, ar nos Galan Gaeaf, cafodd cloeon drysau ar y brif stryd yn Aberystwyth eu llenwi â glud.

Cafodd banciau Nationwide, Santander, Halifax a Barclays eu heffeithio, a hefyd siopau coffi Costa, Cafe Nero, a Starbucks.

Mae seiri cloeon yn dal wrthi’n trio agor y drysau, ond mae’r banciau ar gau o hyd.

Meddai’r Cynghorydd Sir, Ceredig Davies: “Mae pobl yn dibynnu ar y banciau, mae pobl wedi dod mewn o gefn gwlad i Aberystwyth mwy na thebyg er mwyn gwneud busnes.

“Falle bod rhai mewn sefyllfa lle mae angen talu pres mewn, ac mae hwn yn mynd i gael effaith andwyol arnyn nhw.”

Yn ôl rheolwraig banc Santander Aberystwyth, mae’r weithred hon yn rhwym o gael effaith negyddol ar bobl dros ran helaeth o gefn gwlad Ceredigon:

“Mae 50 o filltiroedd cyn y gangen nesa’, ac ry’n ni jyst eisiau helpu’r cwsmeriaid sy’n dod pob diwrnod.

“Mae’r person neu’r grŵp sydd wedi gwneud hyn wedi effeithio ar fywyd pobl sydd yn dod ac yn gorfod trafaelu dros 10 milltir i ddod mewn i’r dre, sy’n drueni wedyn.

“Yn anffodus, maen nhw wedi cymaint o lanast i’r cloeon, fel bod y locksmiths yn methu dod mewn. O leia’ fod gyda ni blatfform ar y we a dros y ffôn, sy’n meddwl bod gyda’r opsiwn hwnnw, ond os yw e’n rhywbeth sydd angen ei wneud yn y gangen, mae’n drueni i’r cwsmeriaid.

“I fi falle, dim ond yn byw 5 milltir mas o’r dre, mae 5 milltir amser ti’n byw rhywle gwledig fel hyn yn ofnadwy. Ond ni’n trio neud popeth allen ni heddi i helpu cwsmeriaid ni.”

Daw hyn wedi adroddiadau o fandaliaeth debyg yn Llanbedr Pont Steffan nos Fercher.