CFfI Llanilar yn ailddechrau

Criw ifanc yn cynnal sosial ac yn rhoi egni newydd i hen Glwb.

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

(Llun gan CFfI Ceredigion)

Cynhaliwyd noson sosial gan Glwb Llanilar ar nos Lun 21ain o Hydref, yn llawn gweithgareddau a gemau hwylus. Roedd yn gyfle gwych i’r unigolion gymdeithasu a dod i nabod ei gilydd.

Braf oedd gweld nifer yno ar noson agoriadol y clwb, a’r gobaith yw y bydd yn ehangu ymhellach.

Aelodau’r clwb yn chwarae’r hen ffefryn – Knight, Jockey, Cavalier

Byddwn yn cynnal y clwb yn wythnosol o hyn ymlaen am 7.30yh ar nos Iau gan gynnal gweithgareddau yn y neuadd, yn ogystal ag ymweld â llefydd amrywiol.

Estynnwn groeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno a ni fel clwb, boed wedi bod o’r blaen neu beidio.

Dyma stori gan Caryl George o CFfI Llanilar ar gyfer gwefan fro newydd BroAber360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://broaber.360.cymru