CFfI Ceredigion – YN FYW o’r Steddfod

Aelodau CFfI Ceredigion sy’n dod â holl hwyl #steddfodcardi yn fyw o Bafiliwn Bont.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.

Uchafbwyntiau:

  • Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
  • Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
  • Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
  • Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!

22:11

? CANLYNIAD GWAITH CARTREF – HYSBYSEBU CEREDIGION ?

Hysbyseb digidol i hyrwyddo Ceredigion erbyn Eisteddfod Genedlaethol 2020

1af – Clwb Pontsian

2il – Clwb Llanwenog

3ydd – Clwb Trisant

22:10

? CANLYNIAD GWAITH CARTREF – CYWAITH CLWB ?

Fideo yn hyrwyddo bwyd a diod lleol

1af – Clwb Pontsian

2il – Clwb Llanwenog

3ydd – Clybiau Felinfach, Caerwedros a Llanddeiniol

22:06

? CANLYNIAD GWAITH CARTREF – FFOTOGRAFFIAETH ?

Thema ‘golau’

1af – Sion Wyn Evans, Clwb Felinfach

2il – Emily Lloyd

3ydd – Dyfrig Williams, Llangwyryfon, a Rhodri Jenkins, Mydroilyn

22:04

? CANLYNIAD GWAITH CARTREF – AELODAU DAN 16 ?

Araith ar bwnc llosg

1af – Clwb Pontsian

2il – Clwb Llanwenog

3ydd – Clwb Llanwenog

22:03

? CANLYNIAD GWAITH CARTREF – AELODAU DAN 21 ?

Erthygl ar gyfer cylchgrawn CFfI

1af – Clwb Bro’r Dderi

2il – Clwb Pontsian

3ydd – Clwb Llanwenog

22:02

? CANLYNIAD GWAITH CARTREF – AELODAU DAN 26 ?

Araith ar bwnc llosg

1af – Megan Lewis, Clwb Trisant

2il – Dyfrig Williams, Clwb Llangwyryfon

3ydd – Gwenith Richards, Clwb Pontsian

21:52

Catrin, Clwb Mydroilyn gynt, sy’n clodfodi ‘teulu’ y CFfI wrth anerch y gynulleidfa fel Llywydd y dydd.

 

 

 

21:43

Llangwyryfon wrthi’n y sgets
Ymwelydd annisgwyl i’r gynulleidfa

 

21:37

Clwb Penparc wrthi’n cystadlu.
Criw Penparc ar ôl y cystadlu.

21:34

Criw Llanddewi Brefi ar ôl y cystadlu.