Beicwyr gwaed a Merched y Wawr yn Llanafan

Angharad Morgan
gan Angharad Morgan
Blood bikesAngharad Morgan (Parth cyhoeddus)

Ar Nos Lun y 16ed o Ragfyr, croesawodd cangen Merched Y Wawr Llanafan wirfoddolwyr o elusen Blood Bikes. Cafwyd noson hynod o ddiddorol, roedd rhaid cyfaddef nad oeddem fel aelodau yn ymwybodol o’r gwasanaethau arbennig mae’r Blood Bikes yn cynnig yn rhad ac am ddim i’r gwasanaeth iechyd. Erbyn heddiw, maent yn gwneud tipyn mwy na cludo gwaed, ac yn aml cyfeirir atynt fel y pumed gwasanaeth argyfwng.

Carolau i’r beicwyr gwaed

Mae’r gangen yn edrych ymlaen i ganu carolau o gwmpas yr ardal er budd Blood Bikes eleni. Cadwch olwg amdanom yn ardal Llanafan, Trawscoed a Cnwch Coch dros y diwrnodau nesaf, a chofiwch gefnogi.

Beth arall sydd ar y gweill?
Mae Merched y Wawr Llanafan yn cwrdd yn fisol yn Neuadd Lisburne.

Mae rhaglen amrywiol ar gyfer 2020 sydd yn cynnwys: –
Ionawr 13 – Pwythau Pisgah – gwaith llaw Menna Lewis
Ionawr 25 – Cinio Blynyddol yn y Maes Bangor
Chwefror 10 – Noson yn Amgueddfa Ceredigion
Chwerfror 29 – Cawl Dydd Gŵyl Dewi gydag adloniany yn Neuadd Lisburne
Mawrth 9 – Noson yng nghwmni Sion y ‘Dentist’
Ebrill – Cyfarfod Blynyddol
Mai – Helfa Drysor
Mehefin – Trip Dirgel

Beth am i chi ymuno? http://merchedywawr.cymru/cangen/llanafan/